Module Information

Cod y Modiwl
DD31020
Teitl y Modiwl
CREU CENEDL: DRAMA IWERDDON YN YR UGEINFED GANRIF
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Cwblhau rahn un yn llwyddiannus
Manylion Pellach:

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Er mwyn ail-sefyll y modiwl rhaid i fyfyrwyr ail-sefyll arholiad a pharatoi a chyflwyno cyflwyniad llafar unigol 40 munud o hyd. Bydd yr elfen arholiad = 50% ar cyflwyniad = 50%. 
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar mewn grwp  35%
Asesiad Semester Cyfraniad i seminarau  15%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- ymateb yn effeithiol i gwestiynau ynghylch techneg dramataidd y dramodwyr a astudiwyd
- trafod gwaith y dramodwyr mewn perthynas a`i gyd-destun cymdeithasol
- gweithio fel rhan o grwp i lunio a chynnal dadl sy`n arddangos sgiliau dadansoddiadol a chymhariaethol
- trefnu deunydd ar gyfer seminarau a`i gyflwyno`n effeithiol i gyd-fyfyrwyr

Disgrifiad cryno



Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio agweddau ar theatr y yr Ugeinfed ganrif yn Iwerddon dros gyfnod eang, fel modd o archwilio`r newid sylweddol a welwyd yn theatr a llenyddiaeth ddramataidd y wlad honno ac er mwyn gosod y datblygiadau a welwyd yn theatr Iwerddon mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol priodol.



Nod

Prif amcanion y modiwl ydyw:
- galluogi`r myfyrwyr i ddehongli drama a theatr yr Ugeinfed ganrif yn yr Iwerddon fel agwedd ar weithgaredd diwylliannol a gwleidyddol
- meithrin sgiliau dadansoddiadol a`r gallu i lunio a chynnal dadl gytbwys
- cymell myfyrwyr i drafod y ddrama Wyddeleg yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol perthnasol yn ystod yr Ugeinfed ganrif
- annog myfyrwyr i asesu`r cyfryw weithgaredd dramataidd mewn perthynas a`u profiad wrth astudio drama a theatr gyfoes yn Ewrop mewn modiwlau eraill ar y cynllun gradd




Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Churchill, Caryl (1989) Cloud Nine Nick Hearn Chwilio Primo O`Casey, Sean (1949) The Plough and the Stars Macmillan Chwilio Primo Osborne, John (1960) Look Back in Anger Faber Chwilio Primo Shaw (1964) Heartbreak House Penguin Chwilio Primo Synge, J.M. (1977) Playboy of the Western World, Riders to the Sea Allen and Unwin Chwilio Primo Yeats, W.B. (1982) Cathleen Ni Houlihan, Deirdre, At The Hawk`s Well Papermac Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6