Module Information
			 Cod y Modiwl
		
DD32820
			 Teitl y Modiwl
	 
			 THEATR MEWN ADDYSG
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2010/2011
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1
				 Manylion Pellach:
		 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | Darlith 1 x 2 awr yr wythnos | 
| Eraill | Gweithdai 1 x 2 awr yr wythnos | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Perfformiad a chyfraniad ir prosiect Gwaith Prosiect: | 70% | 
| Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. Os methir y modiwl oherwydd methur elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhaid ir myfyrwyr sefyll arholiad llafar unigol. | |
| Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 30% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
 
 
- cydweithio fel rhan o grwp creadigol i sylweddoli prosiect ymarferol i bobl ifainc.
 - paratoi deunyddiau perthnasol fel ffordd o gefnogi`r prosiect ymarferol.
 - arddangos ymwybyddiaeth o'r maes Theatr Mewn Addysg, ei swyddogiaeth, ei dechnegau perfformio amrywiol a'i effaith, trwy draethawd ysgrifenedig
 - arddangos sgiliau dehongli a pherfformio arbennig ar gyfer Theatr Mewn Addysg, gan gymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau creadigol ac addysgiadol yn eu cywaith ymarferol
 - Gwerthuso eu gwaith ymarferol ac asesu priodolrwydd eu cywaith, ar lafar ac ar bapur
 - trefnu ei g/waith ymchwil a sgriptio, a chadw nodiadau manwl neu gofnod ysgrifenedig o'r gwaith archwilio a pharatoi'r cywaith ymarferol, sy'n amlygu ei c/gyfraniad personol i'r cywaith a'i gwerthusiad ohono.
 
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i deithio rhaglen Theatr mewn Addysg o gwmpas ysgolion Cynradd neu Uwchradd. Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl a rhoddir cyfleoedd i'r unigolion ymgymryd a tasgiau fel cyfarwyddo, perfformio, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio, cynllunio gwisgoedd a set, gwaith cyswllt gydag ysgolion a.y.b.
Nod
 
 Nod yr Adran wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:
 
- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg
 
 
- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg
Cynnwys
Byddwch yn mynuchu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw byddwch yn ymweld ag ysgolion o bob math, ac os yn bosibl fe fydd cyfleoedd i fynychu perfformiadau byw. yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.
Fydd y darlithoedd/gweithdai yn cynnwys y sesiynau canlynol:
Hanes Theatr Mewn Addysg
Drama Mewn Addysg a theatr Mewn Addysg
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (i)
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (ii)
Ystyr(on) y Perfformiad: Dadansoddi a Gwerthuso
Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifainc
Agweddau Ewropeaidd
Beth am y Dyfodol?
Rhestr Ddarllen
HanfodolJackson, T. (ed) (1993) Learning Through Theatre Routledge Chwilio Primo Oddey, A (2002) Devising Routledge Chwilio Primo Taylor, A-M (ed) (1997) Staging Wales Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Theatr Mewn Addysg Mae llawlyfr ar gyfer y modiwl hwn ar gael o'r swyddfa sydd yn cynnwys n nodiadau o gynhadleddau ac erthyglau priodol. Llawlyfr ar gael o'r syddfa, sydd yn cynnwys nodiadau o gynadleddau ac erthyglau priodol o wahanol misolion Chwilio Primo Argymhellir - Cefndir
Boal, A. (2002) Games for Actors and Non-Actors Routledge Chwilio Primo Edwards, D. (1998) The Shakespeare Factor; Moon River; The Deal; David Chwilio Primo Hodgson, J (ed) (1977) The Uses of Drama Chwilio Primo Johnson, L & O'Neill, C (eds) (1984) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama Chwilio Primo O'Toole, J (1976) Theatre in Education Chwilio Primo Redington, C (1983) Can Theatre Teach? Chwilio Primo Redington, C (ed) (1980) Six Theatre-in-Education Programmes Chwilio Primo Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Five Infant Programmes Chwilio Primo Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: Four Secondary Programmes Chwilio Primo Schweitzer, P (ed) (1980) Theatre-In-Education: FourJunior Porgrammes Chwilio Primo Wagner, J B (ed) (1999) Dorothy Heathcote: Drama as a Learning Medium Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
