Module Information

Cod y Modiwl
DD33020
Teitl y Modiwl
YMARFER CYFARWYDDO
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
neu DD32920
Manylion Pellach:

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester PROSIECT CYFARWYDDO  70%
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu



Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon cyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- cyflwyno gweledigaeth artistig ddatblygiedig i`r tim o`ch cwmpas trwy gyfrwng gwaith ymarferol

- creu strategaeth ymarferol er mwyn gweithredu`r welediageth honno

- ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau a chyd-destun y cynhyrchiad yn ymarferol ac ysgrifenedig



Disgrifiad cryno



Mae'r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe'i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwydoo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer ei berfformio'n gyhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadiau manwl o'r broses ymarfer a pharatoi a'u cyflwyno i'r arholwr mewn viva. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Gall myfyrwyr sy'n dymuno astudio Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchaid adrannol, ei baratoi a'i godi. Yn yr un modd, rhaid i'r myfyrwyr hyn gyflwyno'u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses grwu a'r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Bydd darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth ynghylch y dewis ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a'r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynau unigol gyda chyfarwyddwyr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ymffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a'r perfformiad ei hun. Ar adeg cwblhau'r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi'r gwaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddynt ysgrifennu eu traethodau.



Nod

Ein nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- galluogi'r myfyrwyr i ddatblgu a chyflwyno darn cymhleth o waith ymarferol.
- annog y myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros dim o gydweithwyr.
- amlinellu a gweithredu cynllun artistig gwreiddiol.


Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Barker, Clive (1977) Theatre Games Methuen Chwilio Primo Brook, Peter (1993) There Are No Secrets Methuen Chwilio Primo Chekhov, M (1963) To The Director and the Playwright Harper & Row Chwilio Primo Cole, Susan Letzler (1992) Director in Rehearsal, A Hidden World Routlegde Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6