Module Information

Cod y Modiwl
FG05510
Teitl y Modiwl
FFISEG LABORDY 2
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
Dim
Elfennau Anghymharus
Ddim ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd Ffiseg 3 blynedd BSc (anrhydedd) na 4 blynedd MPhys
Rhagofynion

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 11 sesiwn ymarferol pob un yn 3 awr o hyd.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol  20%
Asesiad Semester Dyddiadur Labordy  60%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar Powerpoint (drwy'r Gymraeg)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
- cyflawni arbrofion syml mewn Ffiseg
- cymhwyso dulliau dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau
- diddwytho casgliadau priodol o'r canlyniadau
- cyflwyno eu gwaith mewn dyddiadur labordy, adroddiad ffurfiol a chyflwyniad Powerpoint

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion ar wahanol agweddau o Ffiseg, gan gynnwys: Osgiliadau a Thonnau, Ffiseg Thermol, a Thrydan a Magnetedd. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y rhain mewn system cylchdro yn ystod y semester. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u gwaith drwy gadw Dyddiadur Labordy sy'n nodi manylion datblygiad pob arbrawf, baratoi adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol, a rhoi cyflwyniad llafar gan ddefnyddio Powerpoint.

Disgrifiad cryno

Adeilada'r modiwl ar y rhagarweiniad a roddwyd ym modiwl PH05010 i Ffiseg arbrofol. Mae'r pwyslais yn parhau ar hyfforddi'r myfyrwyr i ddefnyddio cyfarpar labordy sylfaenol, ar gymhwyso'r technegau dadansoddi cyfeiliornad a gyflwynwyd yn y modiwl blaenorol, ac ar ddehongli canlyniadau er mwyn dod i gasgliadau dibynnol. Datblygir sgiliau cyflwyno gwaith yng nghyd-destun yr arbrofion.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3