Module Information
Cod y Modiwl
FGM5860
Teitl y Modiwl
PROSIECT ESTYNEDIG
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | Gwaith prosiect yn ystod amser gweithio arferol; cyfarfodydd rheolaidd gyda'r goruchwyliwr, gyda chefnogaeth gan diwtor cyfrwng Cymraeg. |
Darlithoedd | 40 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (drwy'r Gymraeg) | 15% |
Asesiad Semester | Cynnydd | 10% |
Asesiad Semester | Ymarferiad ar baratoi ac adolygu prosiect | 15% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
- cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil estynedig
- dehongli a thrafod eu canlyniadau yng ngoleuni gwybodaeth gyfredol ar y testun
- cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol
- paratoi, cyflwyno ac adolygu cais ymchwil
Disgrifiad cryno
Wedi cwblhau'r traethawd project (FGM5010 neu PHM5010) ac elfen gynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn gweithio ar broject sydd fel arfer ar destun sy'n gysylltiedig â gwaith ymchwil yn y Sefydliad, o dan oruchwyliaeth arolygydd project. Bydd angen dehongli canlyniadau y project a'u trafod yng ngoleuni y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil. Caiff y gwaith ei gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol. Mae cwrs preswyl yn Gregynog yn rhan o'r modiwl. Caiff hwn ei gynnal ar ddechrau'r semester a chaiff ei drefnu ar y cyd gan staff Ffiseg Aberystwyth a Chaerdydd. Yn rhan ohono mae sesiynau ar gynllunio project, cyfathrebu a sgiliau hunan reoli, a gwaith grŵp strwythuredig ar gyflwyno ac adolygu projectau.
Darperir manylion pellach yn llawlyfr y Prosiect Estynedig.
Darperir manylion pellach yn llawlyfr y Prosiect Estynedig.
Cynnwys
Bydd testun yr ymchwil yn wahanol ar gyfer pob prosiect.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod y gwaith prosiect ar lafar drwy'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Rhoddir y gefnogaeth cyfrwng Cymraeg naill ai gan y goruchwyliwr neu gan diwtor prosiect cyfrwng Cymraeg. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Cwrs preswyl yng Ngregynog |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7