Module Information

Cod y Modiwl
FTM2130
Teitl y Modiwl
YR AMGYLCHEDD CYNHYRCHU
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymarferol - Mynd ati yn broffesiynol i greu cyllideb a chynllunio cynhyrchiad ar gyfer rhaglen neu gyfres a gyflwynir i chi gan eich tiwtor. Nodwch pa atodlenni cyllideb syn berthnasol ir cynhyrchiad ac esboniwch pam. Dadansoddwch y swm a ddisgwylir gwario yn mhob atodlen gan ddod i gyfanswm o fewn yr uchafswm pris a nodir. Bydd angen i chi gyflwynor gyllideb ar y pro forma a gewch chi gan eich tiwtor, gan nodich esboniadau ach dadansoddiad. Bydd angen cyflwynoch amserlen gynhyrchu gyda nodiadau o eglurhad ynglyn ar camau rych chi wedi cymryd wrth greur amserlen ac o unrhyw newidiadau rych wedi gorfod gwneud yn y broses (nid oes canllaw nifer geiriau ar gyfer yr aseiniad hwn).  40%
Asesiad Semester Traethawd - Bydd testunaur traethawd yn ymdrin a hanes a dyfodol yr amglychedd radio. 5,000 o eiriau.  30%
Asesiad Semester Adroddiad - Gan weithion benodol gyda dogfennau sydd ar gael drwy Ofcom, cyflwynwch ddadansoddiad o drafodaeth gyfreithiol neu foesegol syn deillio o raglen neu gyfres radio, gan ei osod mewn cyd-destun hanesyddol. 3,000 o eiriau.  30%
Asesiad Ailsefyll Lle bo angen, bydd aseiniad atodol yn dilyn yr un strwythur ond fe fydd y testun neur strwythur creadigol yn newid. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod a gwerthuso sut mae'r diwydiant radio yn y DU yn gweithredu, trwy astudiaeth o agweddau ymarferol cynhyrchu radio yn ogystal a thrwy gyfeirio at dadleuon cyfredol a dadansoddi testunau cyfredol ar y cyfryngau.
2. Ystyried mewn modd beirniadol a delio mewn modd broffesiynol a phob agwedd o gynhyrchu radio.
3. Datblygu dealltwriaeth o'r hyn mae'r diwydiant yn ei ddisgwyl gan ddyfodiaid newydd i'r gweithle.

Nod

I roi gwybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr am faterion radio, a fydd yn sail cyffredinol ar gyfer astudio materion radio yn ystod gweddill y cwrs. I ddatblygu dealltwriaeth o'r cysyniadau creadigol, ymarferol a rheoleiddiadol (y cyfryngau a'r gyfraith, polisi golygyddol a moesau) ynghyd a'r prosesau sydd ynghlwm a chynhyrchu radio.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad ac astudiaeth o fedrau golygyddol, gan gynnwys cytundebau, polisi golygyddol, amrywiaeth, brandio, cyllidebu ac amserlenni.

Cynnwys

DARLITHIAU
Awgrym o Gynnwys Sesiynau
Darlith 1 - Astudio Radio
Mae radio yn gyfrwng sy'r newid yn gyson. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae wedi addasu yn ddiwylliannol ac yn dechnolegol er mwyn sicrhau ei le fel cyfrwng poblogaidd ac unigryw, a hynny er gwaethau'r twf mewn gwasanaethau teledu, sinema, cebl a lloeren, argaeledd cyffredinol cerddoriaeth wedi'r recordio a'r rhyngrwyd. Un o brif nodweddion radio ymhlith y cyfryngau torfol yw ei fod yn siarad a'r unigolyn. Mae'r creu perthynas unigryw gyda'r wrandawyr ac yn creu ymateb drwy rinwedd eu dychymyg. Mae'r gyfrwng sydd ar gael ymhobman bron, mae'r gyfrwng sy'r ymateb ac mae'r gyfrwng di-oed. Dyma rai o'r materion a caiff eu trafod yn y ddarlith gychwynnol hon.

Darlith 2- Cyflwyniad i'r Cylch Cynhyrchu
Bydd y cyflwyniad yma i'r cylch cynhyrchu yn edrych ar y camau gwahanol ar hyd y llwybr gynhyrchu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr eu deall a'r dilyn-? o'r cysyniad gwreiddiol hyd y rhaglen derfynol.

Darlith 3 - Canllawiau Golygyddol, Rhan 1Mae'r rhaid i raglenni radio sy'r cael eu darlledu yn y Deyrnas Unedig gadw at reolau a rheoliadau. Yn achos y BBC, mae'r rhaid i bob cynhyrchydd gadw at ganllawiau golygyddol y gorfforaeth boed y cynhyrchydd yn aelod o staff neu'r annibynnol. Mae Adran Polisi Golygyddol y BBC yn adolygu'r canllawiau yma yn barhaus ac mae glynu atynt yn rhan annatod o gytundeb cynhyrchydd. Yn y sesiwn hon, fe fydd myfyrwyr yn astudio'r prif feysydd a ddaw o dan ganllawiau golygyddol y BBC ac yn dysgu sut mae sicrhau cydymffurfiaeth ymhob agwedd o'r broses gynhyrchu.

Darlith 4 - Canllawiau Golygyddol Rhan 2
Fe fydd myfyrwyr yn dysgu am y rheoliadau eraill y mae'r rhaid i gynhyrchwyr radio lynu atyn nhw wrth gynhyrchu rhaglenni. Fe fydd dyletswyddau'r corff rheoli Ofcom yn cael eu hastudio, yng nghyswllt y BBC a'r sector annibynnol. Bydd cwestiynau moesol a moesegol yn cael eu trafod yma. Ymlith y meysydd eraill a gaiff sylw y mae iechyd a diogelwch, a'r gwaith papur sydd angen ei gwblhau ar gyfer rhaglenni.

Darlith 5- Y Gyfraith a'r Cyfryngau
Mae angen i gynhyrchwyr fod yn ymwybodol o'r cyfreithiau gwahanol sy'r effeithio ar raglenni, megis hawlfraint neu ddirmyg llys, preifatrwydd neu fudd y cyhoedd. Caiff y ddarlith hon ei thraddodi gan arbenigwr ym maes y gyfraith

Darlith 6- Penderfyniadau Golygyddol ac Amserlenni
Nid yw allbwn gorsaf radio yn gasgliad di-hid o raglenni ond yn hytrach, cyfuniad ystyrlon o sain wedi'r grefftio gyda chynulleidfa arbennig mewn golwg. Y bwriad yw cwrdd ag angen y gynulleidfa am wybodaeth ac adloniant - a'r cadw rhag diffodd y gwasanaeth. Mae golygyddol a rheolwyr radio yn ceisio asio'r cynnwys gyda gweithgareddau dyddiol eu gwrandawyr, gan ddewis cynnwys sy'r gweddu at eu anghenion a'r hwyliau ar adegau gwahanol o'r dydd, tra ar yr un pryd yn darparu amserlen sy'r ymddangos yn newydd bob dydd ac sydd a rhyw rigol naturiol yn perthyn iddo. Caiff y materion hyn eu trafod yma.

Darlith 7 - Brandio a Hunaniaeth
Mae pob gorsaf radio yn ceisio datblygu ei arddull ddi-hafal ei hun. Gall wneud hynny trwy ei ddewis o gerddoriaeth (neu trwy ddewis peidio a chwarae cerddoriaeth), arddull ei gyflwynwyr a'r raglenni. Mae hunaniaeth yr orsaf hefyd i'r glywed yn ei jingles, y math o gystadlaethau mae'r eu cynnal a'r ddeunydd hyrwyddo. Mewn geiriau eraill, mae na fwy yn perthyn i orsaf radio na rhaglenni yn unig. Mae gan bob gorsaf radio ei agwedd a'r ddaliadau ei hun, ac mae'r rheiny yn creu brand yr orsaf. Nid ffynhonnell gwybodaeth ac adloniant yn unig mo radio. Mae'r gynnyrch i'r gynnig i gynulleidfa. Caiff y materion hyn eu trafod yn ystod y sesiwn hon. Darlith 8 ? Costau a ChyllidebauCyflwyniad i'r dulliau gwahanol o ariannu'r BBC a'r gorsafoedd radio er mwyn iddynt gwrdd a'r dyletswyddau golygyddol. Bydd y sesiwn yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng yr arian a glustnodir ar gyfer gorsafoedd rhwydwaith y BBC, a'r cyllidebau ar gyfer rhaglenni sy'r cael eu cynhyrchu yn y gwledydd a'r rhanbarthau. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn sy

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
(1995) Broadcasting Research Unit, The Public Service in British Broadcasting :main principals, BRU Chwilio Primo Vol 2 - The Golden Age of the Wireless 1927 ¿ 1939 Chwilio Primo Vol 3 -The War of Words 1939 ¿ 1945 Chwilio Primo Vol 4 - Sound AND Vision 1945 ¿ 1955 Chwilio Primo Briggs, ASA (1995) The History of Broadcasting in the UK Oxford University Press Chwilio Primo Crowe, T (1995) Law and the Media: An Everyday Guide for Professionals Focal Press Chwilio Primo Davies, J (1994) Broadcasting and the BBC in Wales University of Wales Press Chwilio Primo Evans, R Alun (1995) Sglein 1995:Casgliad o 40 o sgyrsiau radio Gwasg Gee Chwilio Primo Hannan, Patrick (1988) Wales on the Wireless: A Broadcasting Anthology Gomer/BBC Wales Chwilio Primo Lutzker, A.P. (1997) Copyright and Trademarks for Media Professionals Focal Press Chwilio Primo Musburger, R.B. (1997) Introduction to Media Production, from Analogue to Digital Focal Press Chwilio Primo Paulu, B (1981) TV and Radio in the UK Macmillan Chwilio Primo Reville, N. (1997) Broadcasting, Law and Practice Bitterworths Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7