Module Information
Cod y Modiwl
GF16220
Teitl y Modiwl
CYFRAITH CYFANSODDIADOL
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
LA16220 a LA36220
Rhagofynion
GF10110 neu LA10110 neu LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 30 awr. 2 darlith un-awr yr wythnos yn Saesneg |
Darlithoedd | 30hr. 1 darlith ddwy-awr yr wythnos yn Saesneg |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Awr. 6 seminarau un awr yn Gymraeg |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd asesiedig 1000 o eiriau ar gyfer wythnos 9 | 33% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd asesiedig 1000 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu | 33% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr - os caiff yr arholiad ei fethu | 67% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:
- Esbonio sut mae cyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod y cynigion am ddiwygio
- Dadansoddi'r gyfundrefn bresennol a chloriannu'r cryfderau a'r gwendidau
- Ymdrin a defnyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddol
- Nodi problemau yn y gyfundrefn gyfansoddiadol, a chymhwyso eu gwybodaeth i awgrymu atebion posibl (e.e. gan gyfeirio at ddeunydd cymharol)
- Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn awgrymu canlyniadau posibl i achosion
- Nodi a gwerthfawrogi y goblygiadau i'r gyfraith gyfansoddiadol yn sgil datblygiadau cyffredinol yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, a deall y berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaid/Ryngwladol, yn ogystal a'r gydberthynas rhwng elfennau canolog a datganoledig yn y cyfansoddiad.
Yn ogystal a'r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:
- Sgiliau da wrth reoli amser er mwyn paratoi at seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
- Y gallu i gyflawni ymchwil annibynnol y rhoddir cydnabyddiaeth amdano yn yr asesiadau
- Y gallu i ganfod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar glawr ac ar ffurf electronig. Bydd y seminarau'r gofyn am baratoi defnyddiau o wefannau
- Y gallu i weithio mewn grwpiau - cynhelir rhai y seminarau ar ffurf gweithdai, lle bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain ac yn trefnu cyflwyniad byr ar y cyd.
Disgrifiad cryno
Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol yn yr ystyr nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Beth mae hyn yn ei olygu, pam mae hi felly, ac a ydyw'n gwneud gwahaniaeth ymarferol, yw rhai o'r cwestiynau y byddwn yn eu hystyried yn y cwrs hwn, sy'n ceisio cyflwyno yr astudiaeth o'r gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyflwyno athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn benodol.
Mae'n wir bod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu'n raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr dros y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o'r newidiadau mwyaf yn gymharol ddiweddar wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach fyth cafwyd dadleuon brwd ar ddiwygio Ty'r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i'r cwrs yw'r modd y mae'r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio'n arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.
Pwnc pwysig arall a ystyrir yn y cwrs yw i ba raddau y mae terfynau i bwerau'r Llywodraeth a'r Senedd. A ydyw'n wir fod gan y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau'n ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a oes sicrwydd tebyg yng nghyfundrefn Prydain.
Mae'n sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl barhaol ynghylch rhai sefydliadau yn y cyfansoddiad. Sut y dylid diwygio Ty'r Arglwyddi? Pa rhan y dylai'r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i'r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu'n destun y galwadau am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.

Nod
Amcan y modiwl hwn yw: cyflwyno egwyddorion y gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn benodol, i fyfyrwyr hyd at lefel sy'r bodloni gofynion eithrio proffesiynol;
annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol;
hybu sgiliau gwaith grwp; a datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.
annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol;
hybu sgiliau gwaith grwp; a datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.
Cynnwys
Dysgir trwy gyfrwng darlithoedd (30) a seminarau/gweithdai (6). Bydd y darlithoedd yn rhoi cyflwyniad i bob testun a bydd tafleni cwrs yn nodi deunydd darllen pellach. Mae seminarau yn grwpiau llai sydd wedi eu cynllunio i drafod materion penodol yn fanylach. Bydd gweithdai hefyd yn canolbwyntio ar destunau arbenigol ac yn anelu i hyrwyddo gwaith grwp ymhlith myfyrwyr. Yn ogystal a'r elfennau hyn dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio cyfran sylweddol o'u hamser yn y llyfrgell yn paratoi ar gyfer seminarau ac yn mynd ar drywydd y deunydd darllen a nodir ar y taflenni.
1. Cyflwyniad cyffredinol i'r Gyfraith Gyfansoddiadol
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain
3. Athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd
4. Rheolaeth y Gyfraith
5. Gwahaniad pwerau
6. Strwythur tiriogaethol y Derynas Unedig a datganoli
7. Sefydliadau a prosesau deddfu
8. Grym weithrediaethol as atebolrwydd
9. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y Derynas Unedig [ymdrinnir a'r pwnc yn bennaf mewn seminau yn hytrach na'r darlithoedd]
RHESTR DDARLLEN
Llyfrau
Peidiwch a phrynu llyfrau cyn dechrau'r modiwl.

Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydLoveland, Ian (2009) Constitutional Law, Administrative Law, and Human Rights 5th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Turpin & Tomkins (2007) British Government and the Constitution:Text and Materials 6th ed. Cambridge University Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4