Module Information

Cod y Modiwl
GF36100
Teitl y Modiwl
CYFRAITH TIR
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
LA36130
Rhagofynion
NEU Foundations of Law LA15710 A Cyfraith Cytundebau (LA15830 neu LA35830 neu GF15830)
Rhagofynion
Y Gyfundrefn Gyfreithiol (LA10110 neu LA30110 neu GF10110)
Rhagofynion
NEU Proses Gyfreithiol (LA11010 neu LA31010 neu GF11010)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr. 35 awr o ddarlithaedd yn Saesneg. 5 awr o ddarlithaedd yn Gymraeg. Tair darlith awr o hyd bob wythnos dros y ddau semester.
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr yn Gymraeg. 4 seminar awr o hyd bob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 Awr   Prawf Cyfraith Tir  10%
Asesiad Semester 1 traethawd 1000 gair i'w gyflwyno yn Semester 2  25%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr o hyd  65%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Prawf Cyfraith Tir  - os caiff y prawf ei fethu.  10%
Asesiad Ailsefyll 1 traethawd 1000 gair  - os caiff y traethawd ei fethu.  25%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  - os caiff yr arholiad ei fethu.  65%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Mae tir yn nwydd gwerthfawr. Mae'r rheiny sy'n berchen ar dir yn dymuno cadw'u gafael arno. Mae'r rheiny nad oes tir ganddynt yn dymuno'i gael. Y gyfraith sy'n rheoli'r cysylltiadau hyn yw cyfraith tir. Mae pobl sy'n prynu tai a phobl sy'n berchen arnynt yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl sy'n rhentu tai a fflatiau. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan a dw^r yn cael eu rheoli gan gyfraith tir. Mae pobl sy'n mynd i'r theatr neu'r rheiny sy'n hoff o fynd i wylio gemau pe^l-droed yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ynghyd a^ banciau a chymdeithasau adeiladu, cyplau priod a di-briod a pherchnogion rheiliau tywelion, ceffylau chwilfrydig a physt gatiau sia^p llew. Mae hyd yn oed gwyrddni parhaus y tir y tu allan i sinema'r Odeon yn Leicester Square yn Llundain yn cael ei reoli gan gyfraith tir. Yng ngoleuni hyn oll, bydd y modiwl hwn yn cynnwys ystyriaethau megis beth yw tir, pa elfennau sydd i gyfraith tir a sut gellir sicrhau, cadw neu golli hawliau a buddiannau sy'n ymwneud a^ thir.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n rheoli'r broses o gaffael hawliau dros dir a chadw'r hawliau hynny. Ei nod felly yw esbonio'r ffordd y mae cytundeb rhwng un unigolyn a'r llall yn troi'n gytundeb sy'n arwain at fantais neu rwymedigaeth nid ar unigolyn ond yn hytrach ar rywun yn rhinwedd ei swyddogaeth fel perchennog ysta^d mewn tir. Yn unol a^ hyn, mae'r hyn sy'n cael ei sicrhau rhwng dau unigolyn dan gyfraith contract yn cael ei ail-greu dan gyfraith tir i greu hawliau a rhwymedigaethau a allai rychwantu cenedlaethau. Felly, nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniad tir a chaffael a ffurfioli hawliau sy'n ymwneud a^ thir unigolyn a thir sy'n eiddo i rywun arall. Ei nod yw rhoi cyfraith tir yng nghyd-destun hanes cyfreithiol Cymru a Lloegr a'r sefyllfa gyfredol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Ei nod hefyd yw datblygu ffordd o gymhathu a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol, creu dadleuon rhesymegol a phrofedig a datblygu'r gallu i adnabod a chloriannu'r ffordd y mae'r gyfraith yn datrys problemau cymdeithasol gwirioneddol a chanfyddedig. Nod arall y modiwl hwn yw cyflwyno un o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio yn y proffesiynau cyfreithiol eu cael.

Cynnwys


  • Cyflwyniad
  • Beth yw Tir?
  • Pa elfennau sydd i Gyfraith Tir?
  • Perchnogaeth tir
  • Hawliau dros dir sy'n berchen i rywun arall
  • Cydnabod hawliau perchnogaeth ac amherchnogaeth
  • Cydberchnogaeth
  • Prydlesi
  • Morgeisi
  • Hawddfreintiau
  • Cyfamodau
  • Trosglwyddo


Llyfrau a Deunydd Darllen
Nid oes gwerslyfr penodol i'r modiwl hwn. Awgrymir rhai gwerslyfrau yn y darlithoedd sy'n rhan o'r modiwl, gan fod cyhoeddwyr yn aml yn cyhoeddi rhifynnau newydd o werslyfrau yn ystod yr haf. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr fynd a^ llyfr statudau i mewn i'r arholiad, ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o destunau rhesymol. Pa werslyfr bynnag y penderfynwch ei brynu, dylech hefyd fwrw golwg dros rai o'r llyfrau eraill ar y rhestr, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd darllen arall y gallech fod wedi'i gael ar ffurf achosion, adroddiad ac erthyglau cyfnodolion.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Abbey, R and Richards, M (2010) A Practical Approach to Conveyancing 12th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Clarke, A and Kohler, P (2006) Property Law Cambridge University Press Chwilio Primo Gray, Kevin J. and Gray, Susan F. (2009) Elements of Land Law 6th ed. Oxford University Press Chwilio Primo MacKenzie, J-A. and Phillips, M. (2010) Textbook on Land Law 13th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Stroud, April (2010) Making Sense of Land Law 3rd ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Cursley J, Davys M and Green K (2009) Land Law 6th ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo Dixon, Martin (2010) Modern Land Law 7th ed. Routledge Chwilio Primo Harpum, C., Bridge, S. and Dixon, M. (2011) The Law of Real Property 8th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Smith, Roger J. (2009) Property Law 6th ed. Longman Chwilio Primo Thompson, M.P. (2009) Modern Land Law 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6