Module Information
Course Delivery
| Delivery Type | Delivery length / details |
|---|---|
| Lecture | 10 Darlith/Seminar x 2 awr |
| Practical | sesiynau gwylio 10 x 3 awr |
Assessment
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
| Semester Assessment | Portffolio critigol (3000 o eiriau) | 60% |
| Supplementary Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
| Supplementary Assessment | Portffolio Critigol (gwerth 3000 o eiriau) | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Datblygu corff systemataidd o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru.
2. Datblygu gwybodaeth am ddadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes.
4. Cymhwyso gwybodaeth a dealldwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.
Aims
Cyflwynir y modiwl newydd hwn fel rhan o ailstrwytho'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn llenwi bwlch yn ein darpariaeth bresennol. Mae ffilm a chyfryngau Cymru yn rhan ganolog o faes ymchwil nifer o staff yr adran. Cyflwynir y modiwl hwn er mwyn cynnig darpariaeth unigryw a fydd yn lleoli'r cynllun gradd yn ddaearyddol ac yn sefydliadol.
Brief description
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys, ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydlidau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.
Content
Hanes a Chyd-destun
Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru
Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV
Ffilmiau Amatur Cynnar
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
S4C
Y Sector Annibynnol: Teliesyn
Y Wasg
Y Rhyngrwyd
Blogiau a Gwe 2.0
Seminarau:
Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod
Module Skills
| Skills Type | Skills details |
|---|---|
| Application of Number | |
| Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. |
| Improving own Learning and Performance | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. |
| Information Technology | Er nad yhw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol. |
| Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. |
| Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
| Subject Specific Skills | |
| Team work | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
