Module Information

Cod y Modiwl
TC30920
Teitl y Modiwl
DADANSODDI SYMUD
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol mewn grwp (15 munud)  60%
Asesiad Semester Traethawd (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad ymarferol unigol (10 munud)  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth datblygiedig o egwyddorion System Ymdrech Rudolf Laban; Arddangos gallu critigol i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn symud, byrfyfyrio, ac arsylwi ar symud

Arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, yngyd a'r cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn; Arddangos gallu i ddefnyddio egwyddorion y modiwl i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol

Arddangos gallu i ddatblygu ymated beirniadol aeddfed i'r gwaith a gyflwynir yn y dosbarth ac wrth arsylwi trwy gyfrwng Traethawd hunanddewisiedig

Disgrifiad cryno

Trwy waith ymarferol bydd y myfyrwyr yn dysgu am y 4 'Ymdrech' gwahanol, strwythur a ffwythiad strwythur y corff, ac yn datblygu'r gallu i amgyffred eu defnydd yn y corff. Bydd y gwaith yn cynnwys arbrofi trwy symud, ystyried gweithredoedd syml beunyddiol, ac arbrofol creadigol, a sylwadaeth ar symudiadau gan bobl eraill.

Wrth ddod yn gyfarwydd a'r eirfa newydd a'i defnydd, trwy ddatblygu dealltwriaeth o'r corff, ei ffwythiad a strwythur, bydd y myfyrwyr yn deall mwy am bwysigrwydd cyfathrebu trwy gyfrwng y corff, ynghyd a phwysigrwydd agwedd corfforol cryf i berfformwyr, er mwyn hyrwyddo datblygiad o'r crefft a'u medrau.

Noder: ystyried un agwedd yn unig o system ddadansoddi symud Laban a wneir yn y modiwl hwn, ac ni ddylid ystyried y modiwl fel cyflwyniad cyffredinol i waith Laban yn ei gyfanrwydd.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Sesiynau:

Disgyrchiant, a Llif (ffordd i arsywli, disgrifio a deall tyndra cyhyrol sy'n newidiol ac yn sail i symudiad)
Yr Anadl a Chyflwyniad i Ymdrech Gofod (Yr Ymdrech Gofod yw ffordd i arsylwi, disgrifio a deall ein symudiadau trwy'r amgylchfyd).
Asgwrn y Cefn a chyflwyniad i Ymdrech Pwysau (Yr Ymdrech Pwysau yw ffordd i arsylwi, disgrifio a deall defnydd personol o rym wrth symud)
Strwythur y Pelfis a chyflwyniad i Ymdrech Amser (Yr Ymdrech Amser yw ffordd i arsywli, disgrifio a deall agwedd personol tuag at amser)
Rhannau o'r Corff a symud yn effeithiol
'Basic Effort Actions' (Mae cyfuno'r Ymdrechion yn cynhyrchu effeithiau sydd yn hwyluso symudiadau ymarferol ac yn cyfleu cyflyrau emosiynol)
Penglog a Thraed
Teimlo ac ymateb : arbofi gyda 'Chyweiriad a Chamgymhariad'
Cyfuno'r eirfa a sylwadaeth
Parhau gyda chyfarwyddo corfforol ac arbrofi gyda chyfryngau eraill megis cerddoriaeth, testun a delwedd

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6