Module Information

Module Identifier
TC33240
Module Title
STIWDIO DDIGIDOL
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio Creadigol  40%
Semester Assessment Cynhyrchiad Terfynnol Amlgyfryngol  60%
Supplementary Assessment Portffolio Creadigol  40%
Supplementary Assessment Os fethir cyfrannu at y cynhyrchiad terfynol amlgyfryngol am resymau meddygol neu resymau dilys eraill, gofynnir i'r myfyriwr gyflwyno traethawd (6000 o eiriau) yn ei le. Bydd natur y dasg yn cael ei benderfynu gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi yn ddibynnol ar ganran y gwaith a gollwyd.  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos dealltwriaeth o'r gwahanol elfennau sydd ynglwm a phrosesau cynhyrchu cyfryngol o fewn stiwdio ddigidol

Arddangos meistrolaeth o gyfres o sgiliau allweddol sydd ynglwm a'r prosesau hyn

Ystyried y broses gynhyrchu a'u gwaith creadigol mewn fframwaith gritigol ac atblygol

Aims

Amcan y modiwl hwn sydd yn coleddu cydgyfeiriant yn y cyfryngau yw cynnig cyfle i fyfrwyr weithio mewn grwp ar gynhyrchiad ymarferol amlgyfryngol a fydd yn cwmpasu sawl agwedd ar ymdriniaeth gyfryngol megis sgriptio, gwaith camera sengl, cynhyrchu stiwdio amlgamera, creu llwyfannau gwe a chyfathrebu electronig a chymdeithasol arall perthnasol. Bydd y modiwl yn cynnig cyd-destun ar gyfer ystyriaethau technegol, moesol, aesthetig a chysyniadol sydd ynglwm a chynhyrchu amlgyfryngol. Bydd pwyslais ar feirniadaeth atblygol o fewn y grwp a gan fyfyrwyrs yn unigol ar eu gwaith eu hunain.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr adeiladu ar eu profiad cynhyrchu creadigol ac i ddatblygu gwaith cynhyrchu aml-gyfryngol ac aml-lwyfan mewn cyd-destun atblygol a beirniadol. Bydd cyfle i greu cynhyrchiad a fydd yn ymestyn sgiliau a chymhwyso gwybodaeth o wahanol genres o fewn y cyfryngau yn ogystal ag egwyddorion cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol. Fe ddysgir y modiwl drwy ddarlithoedd a gweithdai a fydd yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar brosesau cynhyrchu o fewn cyd-destun ehangach o adeiladu prosiect cynhwysfawr a fydd yn cynnwys gwaith sgriptio, camera sengl, cynhyrchu amlgamera a chyfryngau newydd. Bydd y Cydlynydd yn gosod tasgau i'r myfyrwyr o sesiwn i sesiwn ac fe gaiff rhain eu cyflawni mewn grwpiau ac yn unigol.

Content

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno mewn elfennau fel a ganlyn:

Y Stiwdio Ddigidol: Prosiect Cydgyfeiriannol a Chynhyrchiad Aml-gyfryngol ac Aml-lwyfan

Datblygu Syniadau: Gwerthuso a thafoli pynciau, themau, ymdriniaeth, genrau, technoleg ac arddulliau.

Ystyriaethau Cynhyrchu ar gyfer Cynhyrchu 'Ffuglen' a Chynhyrchu 'Ffeithiol'.

Cyd-destun Stiwdio a Chynhyrchu: Gweithio mewn tim a dadansoddi rol unigolion.

Ffurfioli Syniadau a Beirniadaeth Atblygol

Creu cynnwys:

1. Ymchwilio (Pobl, Lleoliadau)
2. Sgriptio
3. Cynnyrch Ffeithiol/Dogfen
4. Cynnyrch ffuglen
5. Defnydd Archifau
6. Cyfryngau Newydd
7. Camera Sengl a Golygu
8. Stiwdio Aml-gamera

Llwyfannu neu gyflwyno'r cynhyrchiad aml-gyfrwng ac aml-lwyfan.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl hwn.
Communication Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad.
Improving own Learning and Performance Mae broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd yn gyson, gan ystyried y cyfraniadau ar lefel leol ac i gyfanwaith y prosiect. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modiwl.
Information Technology Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathregbu ar-lein.
Personal Development and Career planning Bydd gweithio yn annibynnol ac mewn grwp yn sgiliau a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Bydd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ystyried gwahanol rolau o fewn timau cynhyrchu yn y diwydiannau creadigol ac felly gall dilyn y modiwl gyfrannu at sgiliau cynllunio gyrfa i unigolion.
Problem solving Fe ddatblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu'r problemau a geir wrth gynllunio ac ymgymryd a gwaith cynhyrchu, megis problemau yn ymwneud ag offer, lleoliadau, newid trefniadau ac ati. Yn ogystal wrth weithio mewn grwp caiff y sgiliau hyn eu datblygu ymhellach.
Research skills Fe ddatblygir sgiliau ymchwil penodol ar gyfer y prosiect cynhyrchu.
Subject Specific Skills Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural Studies (2008)
Team work Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.

Notes

This module is at CQFW Level 6