Module Information
Cod y Modiwl
CC18000
Teitl y Modiwl
DATBYGIAD PROFFESIYNOL A PHERSONOL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Ar gael i fyfyrwyr lefel 1 yn unig
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 21 x 1 hr |
Darlithoedd | 15 Darlith |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | CV a llythyr atodol | 25% |
Asesiad Semester | Hyd at 5 o ymarferion ysgrifenedig un tudalen o hyd ynghyd a chyfraniadau i ddosbarthiadau tiwtorial | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol (asesir gan staff a chymhreriaid) | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Grwp (asesir gan staff a chymhreriaid) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | CV a llythyr atodol | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Unigol | 50% |
Canlyniadau Dysgu
O gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyriwr fedru:
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
cynllunio CV priodol
dangos sgiliau sylfaenol rheoli amser a gweithio mewn tim
adolygu'n feirniadol ei b/pherfformiad ei hun
defnyddio deunydd cyfrifiadurol i ategu astudio yn y brifysgol
cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol
Disgrifiad cryno
Mae pob myfyriwr Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd yn y flwyddyn gyntaf yn astudio'r modiwl hwn; y mae'n cynnig fforwm ar gyfer dysgu holl fyfyriwr y flwyddyn gyntaf gyda'i gilydd mewn un grwp.
Mae'r modiwl yn ymdrin a deunydd nas trafodir mewn modiwlau penodol eraill ond sy'n hanfodol er mwyn gwerthfawrogi pob agwedd ar y maes yn well.
Mae sgiliau personol trosglwyddadwy yn rhinwedd bwysig ar gyfer unrhyw beiriannydd meddalwedd ac yn ffurfio rhan bwysig o'r modiwl hwn.
Mae'r system fugeilio a thiwtora gyffredinol ar gyfer myfyrwyr ar y cynlluniau gradd hyn yn cael ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.
Mae'r modiwl yn ymdrin a deunydd nas trafodir mewn modiwlau penodol eraill ond sy'n hanfodol er mwyn gwerthfawrogi pob agwedd ar y maes yn well.
Mae sgiliau personol trosglwyddadwy yn rhinwedd bwysig ar gyfer unrhyw beiriannydd meddalwedd ac yn ffurfio rhan bwysig o'r modiwl hwn.
Mae'r system fugeilio a thiwtora gyffredinol ar gyfer myfyrwyr ar y cynlluniau gradd hyn yn cael ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin a deunydd hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel pobl broffesiynol yn eu maes. Datblygir ystod o sgiliau personol trosglwyddadwy o werth cyffredinol yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cynnig cyngor ar baratoi curriculum vitae ar gyfer sicrhau blwyddyn mewn gwaith.
Mae'r modiwl yn darparu gofal bugeiliol a thiwtorial cyffredinol ynghyd a fforwm ar gyfer dysgu'r myfyrwyr hyn mewn un grwp.
Mae'r modiwl yn darparu gofal bugeiliol a thiwtorial cyffredinol ynghyd a fforwm ar gyfer dysgu'r myfyrwyr hyn mewn un grwp.
Cynnwys
1. Cynllunio Cyflwyniad : 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.
2. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel : 1 ddarlith
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.
3. Sut i ysgrifennu Saesneg Da : 2 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.
4. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol : 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.
5. Rheoli Amser : 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
6. Rheoli grwp : 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol mewn tim.
7. Cyfeirio a dyfynnu : 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad.
8. Materion Rhyngwyneb Defnyddiwr : 1 ddarlith
Cynllunio wedi ei ganoli ar y defnyddiwr.
Rheolau Schneidermann. Egwyddorion Norman.
9. Techneg Arholiadau : 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.
10. Dosbarthiadau Tiwtorial : 10 wythnos
Bydd gofyn i bob myfyriwr baratoi a rhoi cyflwyniadau ac arddangosiadau ar bapurau o'r deunydd darllen technegol ac ar agweddau penodol ar systemau medalwedd yr ymdrinnir a hwy yn y darlithoedd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4