Module Information

Cod y Modiwl
CC22100
Teitl y Modiwl
CYLCH BYWYD DATBLYGIAD MEDDALWEDD
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cofrestru yn yr Adran
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 Awr   Gwaith cwrs a asesir.  75%
Arholiad Semester arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd Semester 1  - ddiwedd Semester 1  25%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn. Y mae'r arholiad atodol ar gael.  25%
Asesiad Ailsefyll Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn - bydd y marc am yr elfen hon yn cael ei gario ymlaen.  75%

Canlyniadau Dysgu

Prif ganlyniad dysgu'r modiwl hwn yw y dylai'r myfyriwr fod yn gallu:
1. Cymryd rhan mewn prosiect ar raddfa ddiwydiannol.

Yn ogystal, are ol cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
2. Cymhwyso elfennau cylchoedd bywyd meddalwedd, cyferbynnu amrediad o fodelau cylch bywyd a dewis modelau priodol ar gyfer ystod o brosiectau nodweddiadol;

3. Cymhwyso gweithdrefnau ansawdd meddalwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;

4. Defnyddio rheoli fersiwn a ffurfwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;

5. Cynhyrchu'r deilliannau allweddol mewn cylchoedd bywyd meddalwedd.

Disgrifiad cryno

Amcanion y cwrs darlithoedd yn gyntaf yw cyflwyno myfyrwyr i'r arferion traddodiadol gorau ar gyfer pennu, cynllunio, cyflwyno, profi a gweithredu systemau meddalwedd mawr; ac yn ail i ddarparu fframwaith ar gyfer y deunydd mwy manwl ar ddylunio a ddysgir mewn cyrsiau eraill. Prosiect grwp yw'r gwaith ymarferol. Mae'n bosibl y rhoddir prosiectau gwahanol i fyfyrwyr ar gynlluniau gradd gwahanol.

Modiwl hir a tenau. Dim darlithoedd yn Semester 2.

Caiff system diwtorial gyffredinol i fyfyrwyr Blwyddyn 2 ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion sylfaenol peirianneg meddalwedd a rhoi iddynt y profiad o ddatblygu system meddalwedd mewn tim. Yn benodol, mae'n anelu at wneud y canlynol:

  • dangos arferion gorau i fyfyrwyr yng ngweithgareddau peirianneg rheoli prosiect, sicrhau ansawdd a chydymffurfio a safonau;
  • galluogi myfyrwyr i adnabod a defynyddio arferion priodol ar gyfer pennu, cynllunio, profi a gweithredu systemau meddalwedd mawr;
  • darparu fframwaith ar gyfer disgyblaeth peirianneg meddalwedd, gan gynnwys y deunydd mwy manwl ar ddylunio a gweithredu a ddysgir mewn cyrsiau eraill;
  • cynnwys myfyrwyr wrth ddatblygu darn o feddalwedd sydd mor agos ag sy'n bosibl mewn amgylchedd prifysgol i'r amgylchiadau datblygu meddalwedd a geir mewn diwydiant.

Cynnwys

1. Cyflwyniad : 1 Ddarlith
Ymagwedd ac ymrwymiadau'r peiriannydd proffesiynol. Meddalwedd fel arteffact peirianneg. Tebygrwydd rhwng meddalwedd a changhennau eraill o beirianneg.

2. Cylch Bywyd Meddalwedd : 3 Darlith
Disgrifio o'r cyfnodau mewn ystod o gylchoedd bywyd meddalwedd (gan gynnwys Rhaeadr, Prototeipio, Rhaglennu Eithafol a modelau Troell) a'r prif ddeilliannau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig a phob cyfnod. Gwella proses meddalwedd.

3. Rheoli Prosiect : 2 Ddarlith
Cynllunio ac amcangyfrif costau. Monitro cynnydd. Strwythur tim a rheoli tim.

4. Rheoli Ansawdd : 2 Ddarlith
Dilysu, gwirio a phrofi. Cynlluniau ansawdd. Archwilio rhaglen, archwilio cod a mathau eraill o adolygu. Rol y grwp sicrhau ansawdd. Safonau (rhyngwladol, cenedlaethol a lleol).

5. Rheoli Ffurfwedd : 2 Ddarlith
Llinellau sylfaen. Gweithdrefnau rheoli newid. Rheoli fersiwn. Offer meddalwedd i gefnogi rheoli ffurfwedd.

6. Peirianneg Gofynion a HCI : 2 Ddarlith
Safon IEEE ar gyfer manylion gofynion. Dilysu gofynion drwy brototeipio, er enghraifft. Diffygion yn yr agwedd draddodiadol tuag at fanylion. Cyflwyniad i achosion Defnydd UML. Cyflwyniad i HCI.

7. Dylunio : 2 Darlith
Dylunio (pensaerniol) bras a dylunio manwl. Defnydd o haniaethu, celu gwybodaeth, dadelfennu swyddogaethol a hierarchaidd ar lefelau uwch na'r rhaglen unigol. Cynnwys dogfennau dylunio. Diagramau gwladol. Nodiannau UML perthnasol: pecynnau, diagramau cyfres a gweithgaredd, gwrthrychau gweithredol.

8. Gweithredu a chynnal : 2 Ddarlith
Dewis iaith. Trostorri. Dulliau o gynnal a chadw. Ail-ffactora.

9. Profi : 2 Ddarlith
Strategaethau profi. Offer profi: dadansoddwyr statig a deinamig, harneisiau prawf a chynhyrchwyr data, efelychwyr. Profi perfformiad. Profi atchweliad. Dogfennaeth a hyfforddiant i'r defnyddiwr.

10. Dosbarthiadau Tiwtorial
Bydd dosbarth tiwtorial wythnosol yn gysylltiedig a'r cwrs hwn. Bydd y dosbarth tiwtorial yn cael ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau prosiect grwp a thrafod materion peirianneg meddalwedd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd angen sgiliau ysgrifenedig i gwblhau dofgennau ategol i gyd-fynd a'r gwaith cwrs.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd angen rheoli amser yn ofalus er mwyn galluogi myfyrwyr i gwblhau gwaith cwrs etc.
Datrys Problemau Mae hyn yn greiddiol yn y prosiect grwp ac yn y deunydd a arholir.
Gwaith Tim Yn rhan sylfaenol o'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gweler uchod.
Sgiliau pwnc penodol Gweler teitl a chynnwys y modiwl.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i'r myfyrwyr chwilio am wybodaeth dechnegol berthnasol a'i defnyddio wrth gwblhau gwaith cwrs.
Technoleg Gwybodaeth Mae'r holl modiwl yn ymwneud a'r maes hwn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5