Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminars / Tutorials | 5 gweithdy ymarferol x 2 awr Semester Dau |
Lecture | 9 darlith Semester 1 |
Other | 3 taith maes (3 x 2.5 awr) |
Other | ymgynghori unigol ar gyfer y proseict (3 awr) |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Adroddiad byr yn Semester Un yn trafod y teithiau maes. | 10% |
Semester Assessment | Cyflwyniad grwp 20 munud yn Semester Dau | 20% |
Semester Assessment | Prosiect | 70% |
Supplementary Assessment | Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n methu'r modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol. Os methwyd elfen 2, bydd gofyn am gyflwyniad ysgrifenedig. |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Meddu ar adnabyddiaeth briodol o froydd Cymru a'u cysylltiadau llenyddol.
Dangos ystod o sgiliau ymchwilio a'r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.
Dangos dealltwriaeth o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.
Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o'u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad i gynulleidfa fyw.
Aims
Datblygir sgiliau beirniadol wrth ddysgu sut i ddehongli a throsglwyddo gwybodaeth am le^n a llenorion Cymru i eraill, a gwneud hynny o fewn fframwaith theoretig sy'n holi am natur 'etifeddiaeth' a 'threftadaeth'. Datblygir medrau cyfathrebu mewn nifer o gyfryngau, a sgiliau ysgrifennu a golygu i safon uchel. Datblygir sgiliau ymchwil a medrau cynllunio a marchnata mewn meysydd diwylliannol.
Brief description
Modiwl yw hwn sy'n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o'r diwylliant ehangach, a'u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.
Content
Yn Semester Un ceir 9 darlith yn cwmpasu'r elfennau hyn:
1. Cysyniadau (5 darlith): etifeddiaeth, treftadaeth; dyletswydd yr Academi i'r cyhoedd; hybu gweithgareddau llenyddol; adloniant v. addysg; swyddogaeth y cyfryngau a'r sefydliadau; amgueddfeydd, orielau; archifau ffilm a llun; llyfrgelloedd; CADW; Comisiwn Henebion; fframwaith y gyfraith; polisi cyhoeddus; asiantaethau; twristiaeth fewnol a thwristiaeth ddiwylliannol.
2. Hunaniaeth broydd Cymru (4 darlith): astudiaethau ar bedair bro (dwy yn y Gogledd, a dwy yn y De), yn cynnig ac yn trafod esiamplau o dechnegau y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth, ac i danio diddordeb yn lle^n a llenorion yr ardaloedd hynny.
3. Hefyd yn Semester Un bydd tair taith maes leol (3): i Amgueddfa Ceredigion; i Eglwys Llanbadarn; ac i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Yn Semester Dau, bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant (3 awr o ymgynghori unigol) ar brosiect sylweddol a fydd yn esgor ar ddarn gorffenedig o waith addas i'w gyhoeddi (e.e. llyfryn, teithlyfr manwl; testun ar gyfer podcast neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan).
Hefyd cynhelir cyfres o weithdai (5 awr) y bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfrannu cyflwyniadau iddynt.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Mân elfennau achlysurol gydag ystadegau etc. |
Communication | Ar bapur ac ar lafar a hefyd drwy orfod cynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd (prosiect, cyflwyniad). |
Improving own Learning and Performance | Drwy gael adborth gan y darlithwyr, a thrwy drafod gwaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy. |
Information Technology | Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, rhaglen PowerPoint, offer digidol, technolegau mapio a dylunio yn ogystal â geirbrosesu |
Personal Development and Career planning | Drwy ddysgu am faes sydd o'r pwys mwyaf i economi'r wlad; datblygu'r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau), i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio'n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser. |
Problem solving | Drwy ddethol deunydd a'i ddehongli'n effeithiol gan ddatblygu strategaethau priodol at y dasg |
Research skills | Drwy orfod cyrchu amrywiaeth helaeth o ffynonellau ac ymgynefino ag ystod o ddeunyddiau mewn sawl cyfrwng. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Elfennau o waith tîm yn cael eu cynnwys yn y gweithdai |
Notes
This module is at CQFW Level 6