Module Information
Cod y Modiwl
DA30620
Teitl y Modiwl
ADNODDAU YNNI AR AMGYLCHEDD
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
GG30620
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Hours. Seminarau. 4 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. 7 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ail sefyll: arholiad 2 awr (50%). Cywaith iw gyflwyno ar ddiwrnod yr arholiad. | |
Asesiad Semester | Chyflwyniad or cywaith ir dosbarth. Cyflwyniad: | 20% |
Asesiad Semester | Cywaith 3000 o eiriau. Gwaith Prosiect: | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol cwblhau'r cwrs dylai'r myfywrywr fod gallu profi;
- Dealltwriaeth o wahanol adnoddau ynni, eu hanes, a'u dyfodol
- Gwerthfawrogi manteision ac anfanteision yr adnoddau ynni gan gyflwyno ffeithiau ystadegol i gefnogi eu dadl.
- Y gallu i asesu effaith posib unrhyw ddatblygiad yn ymwneud ag adnoddau ynni.
- Datblygu eu gallu a'u medrusrwydd i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar ddawn i gyflwyno gwybodaeth ar lafar.
- Datblygu sgiliau cyfrifiadurol.
Nod
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar adnoddau ynni gyda'r amcan o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfywryr o'r pwnc. Gwneir hyn drwy astudio hanes, themau cyfoes, a asesu dyfofol amryw o adnoddau ynni sydd yn berthnasol i Gymru a thu-hwnt. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth clir o bynciau cyfoes ar gallu i werthfawrogi manteision ac anfanteision y mathau gwahanol o adnoddau ynni. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu cyfrifiadurol, dadansoddol a chreadigol y myfyrwyr.
Cynnwys
Mae'r modiwl wedi ei gynllunio i fod yn addas i ddaearyddwyr dynol a ffisegol. Thema ganolog y modiwl yw adnoddau ynni ar modd yr ydym yn datblygu'r adnoddau hyn. Trafodir beth yw 'ynni', sut yr ydym yn ei ddefnyddio, sut mae'r gofynion hyn wedi newid ar modd mae'r gofynion hyn yn cael eu cwrdd. Trafodir sawl math o ynni gan bwysleisio manteision ac anfanteision pob un. Pwysleisir yr angen i asesu effaith datblygiadau adnoddau ynni ar y gymuned ac ar yr amgylchedd ac fe gyflwynir nifer o enghreifftaiu, y mwyafrif o Gymru.
Yn fras, rhoddir sylw i faterion yn y drefn ganlynol,
Yn fras, rhoddir sylw i faterion yn y drefn ganlynol,
- Tanwydd ffosiledig; eu hanes, dosbarthiad a themau cyfoes e.e. effaith ar hinsawdd.
- Tanwydd niwclear; canolbwyntio ar Brydain gan rhoi sylw i'r drafodaeth am storio gweddillion tanwydd niwclear.
- Ynni adnewyddadwy; yn cynnwys ynni'r haul, gwynt, tonnau a bio-mas
Rhestr Ddarllen
Boyle, G. ed. (1996) Renewable energy : power for a sustainable future Oxford University Press Chwilio Primo Brown, G.C. and Skipsey, E. (1986) Energy resources : geology, supply and demand Open University Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6