Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 gweithdy 1 awr a thiwtorial termau 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Taflenni enghreifftiau | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll cydrannau sydd wedi eu methu | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol opteg geometreg a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
2. Deall diffreithiant a chyfyngiadau i ddatrysyn (resolution) offerynnau optegol.
3. Disgrifio gweithrediad laser a rhoi enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.
4. Deall egwyddor deddfau serofed, cyntaf ac ail thermodynameg a defnyddio'r dair deddf i ddatrys problemau cysylltiedig.
5. Deall egwyddorion theori ginetig ac esbonio amrywiadau mewn cynhwysedd gwres nwyon gyda thymheredd yn nhermau poblogaeth lefelau egni.
6. Adnabod prif gamau thermodynamig mewn gweithrediad peiriannau gwres, cyfrifo effeithlonrwydd a bod yn gyfarwydd â chysyniadau sylfaenol cildroadedd ac entropi.
Disgrifiad cryno
Opteg yw un o'r canghennau mwyaf llwyddiannus o ffiseg glasurol a gellir ei gymhwyso ymhob math o dechnoleg yn amrywio o ficrosgopeg i ffotoneg. Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu theori sylfaenol opteg geometregol a ffisegol ac yn ymdrin gyda chymwysiadau o'r meysydd hyn mewn technoleg fodern.
Mae tarddiad ffiseg glasurol facrosgobig ym myd microsgopig electronau, atomau a molecylau ond gellir ei disgrifio, o leiaf yn ansoddol, drwy syniadau clasurol.
Mae'r elfen ffiseg thermol o'r modiwl yn delio gyda phriodweddau deunyddiau a phrosesau sy'n ymwneud â newid gwres i waith ac i'r gwrthwyneb, a gellir deall prosesau thermol ar lefel atomig yn ogystal â macrosgobig.
Caiff deddfau thermodynameg eu deillio o arsylwadau empirig o nwyon a chysyniadau gwres, a chyflwynir gwaith, cildroadedd, entropi a'r cyflwr sefydlog sy'n ganolog i sawl maes arall mewn ffiseg. Cyflwynir hefyd theori ginetig a chysyniad entropi.
Nod
Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau opteg geometregol a natur donnog golau, a hefyd yn cyflwyno ffiseg thermol gyda sylw i brosesau macrosgobig a microsgopig, gan gynnwys cyflwyniad i'r theori ginetig. Gosodir pwyslais ar ddatrys problemau drwy daflenni enghreifftiau a fydd yn cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd i gynlluniau gradd anrhydedd mewn ffiseg ac yn paratoi myfyrwyr at fodiwlau ffiseg fodern rhan dau.
Cynnwys
1. Natur tonnau electromagnetig.
2. Y sbectrwm electromagnetig.
3. Gweithrediad syml laser. Mathau o laserau.
4. Adlewyrchiad ar arwynebau crwm.
5. Fformiwlâu drych a chonfensiwn arwydd.
6. Plygiant golau. Deddf Snell.
7. Plygiant ar arwynebau crwm.
8. Offerynnau optegol syml.
9. Ymyriant (Ymyradur Michelson, etalon Fabry-Perot).
10. Diffreithiant (Fraunhofer, hollt sengl, hollt dwbl).
THERMODYNAMEG
1. Nwy delfrydol
2. Theori ginetig nwyon, buaneddau isc, cymedr, tebygol Maxwell-Boltzmann.
3. Deddf serofed thermodynameg, cydbwysedd thermol.
4. Tymheredd, graddfeydd tymheredd ac ehangiad thermol.
5. Deddf gyntaf thermodynameg, gwres, gwaith, egni mewnol, prosesau isothermol, isobarig, ac adiabatig, cynhwysedd gwres, gwres cudd.
6. Ail ddeddf thermodynameg, peiriannau gwres, oergelloedd, pympiau gwres, datganiadau Kelvin-Planck a Clausius, prosesau cildroadwy ac anghildroadwy, cylchred Carnot, graddfa tymheredd thermodynamig.
7. Entropi, yr egwyddor o gynnydd entropi, entropi a thebygolrwydd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa. |
Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r pecynnau gwaith cartref electronig wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy'r llyfrau graddau ar-lein. |
Rhifedd | Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd y darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Caiff hwn ei gyfeirio gan waith cartref ar-lein. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4