Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Semester Assessment | Portffolio Critigol (3000 o eiriau) | 60% |
Supplementary Assessment | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Supplementary Assessment | Portffolio (gwerth 3000 o eiriau) | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Datblygu dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a diwydiannol sinema prif ffrwd America drwy astudio cyfnod 'clasurol' Hollywood a'r system stiwdio; Arddangos dealltwriaeth o arferion cynhyrchu - o derminoleg dechnegol i benderfyniadau estheteg, a'r dewisiadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr - trwy astudio ardull Hollywood Glasurol
Ddechrau datblygu ymwybyddiaeth o brif themau a gogwyddau beirniadol sy'n bodoli o fewn disgyrsiau a gysylltir a Hollywood Glasurol.
Ddadansoddi amrediad o ffilmiau a ddangosir mewn modd addas ar gyfer lefel eu hastudiaeth.
Brief description
Ystyrir y blynyddoedd rhwng 191501960 fel 'Oes Aur' y sinema, sef y cyfnod lle sefydlwyd holl godau a chonfensiynau naratifol y cyfrwng. Dadleua nifer bod pwysigrwydd y cyfnod yn parhau hyd heddiw, a phob cyfarwyddwr yn ymateb i'r confensiynau hynny, naill a'i trwy eu cofleidio a'u hail adrodd, neu trwy eu gwrthod a'u gwyrdroi. Sinema Hollywood Glasurol yw'r disgwrs dominyddol felly ym myd y sinema, y canol llonydd sy'n ysgogi ymatebion gwahanol. Mae'r modiwl yn cyflwyno terminoleg sylfaenol y maes wrth deehongli damcaniaethau ffilm amrwyiol. Cymhwysir y damcaniaethau i'r cyfnod clasurol, cyn ei gymwhyso i sinema Hollywood gyfoes.
Content
1. Hanes a'r System Stiwdio
2. Sinematograffaieth
3. Golygu
4. Dyfodiad Sain
5. Naratif Hollywood Glasurol
6. Ideoleg
7. System Ser
8. Genre
9. Awduriaeth
10. Cynrychioli: Rhyw, Hil a Rhywioldeb
Seminarau:
1. Beth yw astudio ffilm yn academaidd?
2. Dadansoddi Siot wrth siot
3. Dadansoddi Testun
4. Hollywood Ol-Glasurol
5. Darllen yn Feirniadol
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ddim yn berthnasol i'r modiwl |
Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Improving own Learning and Performance | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. |
Information Technology | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. |
Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Subject Specific Skills | Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural Studies (2008) |
Team work | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Notes
This module is at CQFW Level 5