Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Other | Gweithdai 1 x 3 awr yr wythnos |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Sgript dramataidd gorffenedig ar gyfer y llwyfan Tua 60 munud o gynhyrchiad | 60% |
Semester Assessment | Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol | 40% |
Supplementary Assessment | Sgript dramataidd gorffenedig Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd | 60% |
Supplementary Assessment | Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Arddangos dealltwriaeth fanwl o wahanol gonfensiynau a thechnegau ysgrifennu ar gyfer llwyfan theatr, ynghyd a'r gallu i strwythuro deunydd yn effeithiol;
Arddangos dealltwriaeth fanwl o'r technegau llwyfannu a fydd fwyaf manteisiol wrth lwyfannu'r darnau dramataidd a ysgrifennir ganddynt;
Arddangos annibyniaeth greadigol a deallusol wrth gymhwyso'r elfennau a'r egwyddorion a ddysgwyd iddynt yn y seminaru/gweithdai
Brief description
Dysgir y modiwl hwn trwy gyfres seminarau/gweithdai a sesiynau titwotial unigol a fydd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi sawl agwedd ar dechneg a chrefft ysgrifennu drama ar gyfer llwyfan, i gyflawni ymarferion ysgrifennu a drafftiau ysgrifenedig. Nod sylfaenol y modiwl fydd cynnig cyfle i'r myfyrwyr i ddatblygu technegau arbenigol a gloywi eu crefft fel y gallant weithio'n annibynnol i gwblhau sgript dramataidd llawn.
Content
Natur ac oblygiadau gwahanol ffurfiau dramataidd (megis monolog, deialog ac ati); Natur ac oblygiadau gwahanol ffyrdd o gychwyn sefyllfaeodd dramataidd;
'Cloddio delwedd', sef dadansoddiad o'r modd y gall gwahanol ddelweddau roi dyfnder ac ychwanegu at weledigaeth golygfa ddramataidd;
Dulliau o ymchwilio wrth ysgrifennu'n greadigol;
Y corff fel ldelwedd a throsiad;
Beth yw 'tempo' mewn drama? Pam fod tempo'n bwysig; sut mae cynhyrchu tempo o fath arbennig a sut y medrir ei reoli;
Gofod: gofod yn y testun, gofod ym myd y ddrama ac yn y gofod perfformio; ynghyd a gofod damcaniaethol/dychmygol ym meddwl y gynulleidfa.
Fe fydd y sesiynau tiwtorial yn canolbwyntio ar ddatblygu sgript y myfyriwr yn unigol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rhifyddol yn ystod y modiwl |
Communication | Fe fydd pwyslais arbennig ar sgiliau cyfathrebu yn y modiwl: disgwylir i'r myfyrwyr ystyried a datblygu gwahanol ddulliau o gyfathrebu gweledigaeth ddramataidd wrth lunio darnau ysgrifenedig, ac fe fydd y seminarau/gweithdai ymarferol a'r sesiynau twitorial yn gosod pwyslais arbennig iawn ar y gallu i gyfathrebu wrth drafod problemau a gosod nodau ymarferol i'w cyflawni. |
Improving own Learning and Performance | Fe roddir cyfle pwysig i'r myfyrwyr ddatblygu eu dysgu a gwella eu perfformiad unigol yn ystod y modiwl trwy gyflwyno aseniad paratoadol cyn mynd ati i greu darn o waith gorffenedig terfynol. Fe fydd y broses o drafod y deunyddiau paratoadol ynghyd a'r adborth a dderbynnir ar ol cyflwyno'r aseiniad cyntaf yn allweddol bwysig wrth gynnig persbectif ar y brif dasg ymarferol. Fe fydd y trafodaethau seminar hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o adborth a roddir i waith aelodau eraill y dosbarth. |
Information Technology | Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u sgriptiau wedi'u prosesu'n eiriol; ac fe fydd y gwaith ymchwil a gyflawnir wrth baratoi'r aseiniadau ymarferol yn gofyn gallu i weithio'n effeithiol ar-lein; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Personal Development and Career planning | Ni fydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y profiad o weithio'n ddwys ar ddarn o waith creadigol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o sgiliau a fyddai'n angenrheidiol petaent yn dilyn gyrfa broffesiynol fel awdur sgriptiau. |
Problem solving | Un o brif dasgau ymarferol y modiwl fydd datblygu sgiliau ymarferol i ddatrys y problemau creadigol sy'n codi wrth geisio llunio sgript dramataidd gorffenedig, ac wrth geisio dychmygu pa fath o amodau perfformio a chynhyrchu a fydd fwyaf cymwys ar gyfer llwyfanu'r deunydd. |
Research skills | Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyriwr ystyried sut i gafael gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer creu a diffinio cymeriadau a/neu sefyllfa ddramataidd neilltuol. er nad asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, fe fydd ansawdd y gwaith ymchwil yn cyfrannu'n bwysig at lwyddiant yr aseiniad terfynol. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Ni ddatblygir sgiliau gwaith tim yn ystod y modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 6