Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 2 x 1 awr darlith yn y wythnos | 
| Eraill | 2 x ymweliad x 5 awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Gwaith cwrs Adroddiad ar ymweliadau maes. | 50% | 
| Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (Ateb byr) | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Arholidad 1.5 awr (50%); Gwaith cwrs 50% Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;
2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;
3. Egluro rôl dyn yn eu datblygiad hanesyddol;
4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;
5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd âr. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.
Cynnwys

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Adroddiadau i'w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Sgiliau maes. | 
| Gwaith Tim | Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain. | 
| Rhifedd | Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion yn y maes. | 
| Sgiliau ymchwil | Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4