Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 14 Hours. (14 x 1 awr) |
Sesiwn Ymarferol | |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Semester | Prosiect grwp | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd: 2,000 o eiriau | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:
i) dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol.
ii) dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.
Disgrifiad cryno
Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.
Cynnwys
Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.
Nod
- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol.
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Dylid Ei BrynuDenver, D (2006) Elections and Voters in Britain (second edition) Prif llyfr y modiwl Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6