Module Information

Cod y Modiwl
MT12910
Teitl y Modiwl
CYNLLUNIO GYRFA A DATBLYGU SGILIAU
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
gofyrion mynediad ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd Mathemateg a Ffiseg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg)
Sesiwn Ymarferol 10 gweithdy 2 awr
 
Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Taenlen (32%), Aseiniad Ystadegaeth (32%), Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a'r Curriculum Vitae (12%),Cyflwyniad Grwp (12%), Cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg (12%)  100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ymarferol ar daenlenni ac ystadegaeth   100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gosod neu addasu taenlen i wneud amrywiaeth o gyfrifiadau a chynhyrchu crynodebau a siartiau o'r ffigurau sy'n cael eu trin
2. Archwilio set ddata gan ddefnyddio pecyn ystadegaeth a chymhwyso dulliau syml i ddadansoddi a chyflwyno y wybodaeth y mae'n ei chynnwys
3. Defnyddio pecyn prosesu geiriau i gynhyrchu dogfennau syml yn cynnwys Curriculum Vitae
4. Defnyddio pecyn cyflwyniad i gynhyrchu cyflwyniad sleidiau syml
5. Rhoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg
6. Cynhyrchu portffolio Cynllun Datblygiad Personol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno nifer o becynnau TG i'r myfyrwyr: pecyn prosesu geiriau, pecyn cyflwyniad, pecyn taenlen a phecyn ystadegaeth, ac yn arddangos defnydd syml o'r pecynnau ar gyfer y gweithle. Fel rhan o'r modiwl mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau ble bydd pob myfyriwr yn paratoi Curriculum Vitae. Drwy weithio mewn timau bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion eu disgyblaeth ac i'r defnydd o'r sgiliau a ddatblygir yn eu cyrsiau ar gyfer y gyrfaoedd yma. Bydd y timau yn rhoi cyflwyniad grwp ar sail eu hymchwiliad gan ddefnyddio'r pecyn cyflwyniad. Bydd y myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr unigol ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg. Mae'r portffolio Cynllunio Datblygiad Personol (CDP) yn elfen o'r cwrs a fydd yn gosod sail i sgwrs gyda'r Tiwtor Personol.

Nod

Cynnwys

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r CV a'r CDP. Datblygir cyfathrebu ar lafar drwy'r cyflwyniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, y cyflwyniad grwp a pharatoi y portffolio CDP yn darparu cyfleoedd i gynllunio ar gyfer gyrfa ac i fyfyrio ar ddatblygiad personol.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau yn y modiwl drwy aseiniadau taenlen ac ystadegaeth ac wrth baratoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg.
Gwaith Tim Mewn grwpiau y gwneir y gwaith sy'n arwain at y cyflwyniad grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy baratoi portffolio CDP bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar eu profiadau dysgu ac yn cofnodi sut y gallant elwa yn sgil hyn.
Rhifedd Caiff cysyniadau a thechnegau rhifyddol eu hystyried yng nghyd-destun y pecynnau taenlen ac ystadegaeth.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Caiff sgiliau ymchwil eu datblygu wrth ymchwilio i destun y cyflwyniad ac ymchwilio i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiol fathau o gyflogaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o becynnau cyfrifiadur.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4