Module Information

Cod y Modiwl
TC10820
Teitl y Modiwl
PROSIECT CYNHYRCHU (THEATR)
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 2 sesiwn x 3 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi’r myfyrwyr i gydweithio’n greadigol wrth ddatblygu a chyflwyno prosiect ymarferol.

Disgwylir i’r myfyrwyr weithio mewn grŵp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy’n codi o ganlyniad i gydweithio fel tîm. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ôl yr amgylchiadau a’r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.

Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grŵp yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernïo gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod â'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a dyfeisiadau eraill megis gwaith fideo ayyb. Fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.

Cynnwys

Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel grwp tuag at gynyrch terfynol a fydd yn waith theatraidd sydd o bosib wedi ei gyd-ddyfeisio gyda’r grwp prosiect cynyrchu Cyfryngau ond nid o reidrwydd. Gan bod y modiwl yn cynnig cyfle posib i gyda-weithio ar brosiect aml-gyfrwng fe fydd y deunydd yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.). At hynny fydd y sesiynnau ymarferol a’r gwaith tuag at yr adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4