Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Darlith-Seminar 2 awr |
Eraill | 10 Sesiwn wylio 3 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (3000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Datblygu dealltwriaeth pellach o gyd-destun hanesydol a diwydiannol sinema prif ffrwd America drwy astudio cyfnod 'clasurol' Hollywood a'r system stiwdio; Arddangos dealltwriaeth critigol o arferion cynhyrchu - o derminoleg dechnegol i benderfyniadau estheteg, a'r dewisiadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr - trwy astudio arddull Hollywood Glasurol.
Datblygu ymhellach eu hymwybyddiaeth o brif themau a gogwyddau beirniadol sy'n bodoli o fewn disgyrsiau a gysylltir a Hollywood Glasurol.
I ddadansoddi'n feirniadol amrediad o ffilmiau a ddangosir mewn modd addas ar gyfer lefel eu hastudiaeth.
Nod
Mae'r rhesymau y tu ol i addasu'r modiwl yn delio o ailwampiad sylweddol i'r cynllun gradd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Fe fydd tynhau ffocws y modiwl yn galluogi i fyfyrwyr ganolbwyntio yn helaethach ar brif nodweddion hanesyddol ffilmiau Hollywood.
Disgrifiad cryno
Ystyrir y blynyddoedd rhwng 1015-1960 fel 'Oes Aur' y sinema, sef y cyfnod lle sefydlwyd holl godau a chonfensiynau naratifol y cyfrwng. Dadleua nifer bod pwysigrwydd y cyfnod yn parhau hyd heddiw, a phob cyfarwyddwr yn ymateb i'r confensiynau hynny, naill a'i trwy eu cofleidio a'u hail adrodd, neu trwy eu gwrthod a'u gwyrdroi. Sinema Hollywood Glasurol yw'r disgwrs dominyddol felly ym myd y sinema, y canol llonydd sy'n ysgogi ymatebion gwahanol. Mae'r modiwl yn cyflwyno terminoleg sylfaenol y maes wrth ddehongli damcaniaethau ffilm amrywiol. Cymhwysir y damcaniaethau i'r cyfnod clasurol, cyn ei gymhwyso i sinema Hollywood gyfoes.
Cynnwys
1. Hanes a'r System Stiwdio
2. Sinematograffiaeth
3. Golygu
4. Dyfodiad Sain
5. Naratif Hollywood Glasurol
6. Ideoleg
7. System Ser
8. Genre
9. Awduriaeth
10. Cynrychioli: Rhyw, Hil a Rhywioldeb
Seminarau:
1. Beth yw astudio ffilm yn academaidd?
2. Dadansoddi Siot wrth siot
3. Dadansodd Testun
4. Hollywood Ol-Glasurol
5. Darllen yn Feirniadol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodeathau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. |
Rhifedd | Ddim yn berthansol i'r modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural studies (2008) |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6