Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | A COMPULSORY MODULE DEVELOPMENT WORKSHOP One session of 7 hours to be held over reading week (in same session as ED20220) |
Darlithoedd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad 1 1 traethawd 2500 gair | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 1 traethawd 2500 gair | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad atodol 1 1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseinaid atodol 2 1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Gwerthuso’n feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.
Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Archwilio’n feirniadol y rhesymau dros gwricwlwm yn seiliedig ar lenyddiaeth mewn ysgolion babanod.
Arddangos ymgysylltu beirniadol â ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ganologrwydd y broses iaith a llythrennedd yn ei rôl gyfryngu ar gyfer yr athro a’r plentyn ifanc. Mae’n archwilio swyddogaeth llythrennedd mewn amryw ddiwylliannau ac yn ystyried y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu iaith a llythrennedd mewn plant ifainc.
Cynnwys
Darlith a seminar 1: Cysyniadau llythrennedd
Darlith a seminar 2: Teithiau i lythrennedd: profiadau meithrin a’r blynyddoedd cynnar
Darlith a seminar 3: Llythrennedd a’r cwricwlwm ysgol
Darlith a seminar 4: Natur naratif: defnyddio llenyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth a’r cysyniad o’r gwir ddarllenydd
Darlith a seminar 5: Datblygiad darllen (1): Agweddau a dulliau
Darlith a seminar 6: Datblygiad darllen (2): Deunyddiau darllen
Darlith a seminar 7: Darllen i ddysgu – llyfrau ffeithiol a deunyddiau gwybodaeth eraill
Darlith a seminar 8: Dechrau ysgrifennu
Darlith a seminar 9: Datblygiad ysgrifennu
Darlith a seminar 10: Llythrennedd amlgyfryngol – y we a thu hwnt
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5