Module Information

Cod y Modiwl
BGM8910
Teitl y Modiwl
Cynaladwyedd Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 14 Awr
Seminarau / Tiwtorialau 10 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad ar lafar (10 munud)  35%
Asesiad Semester Adroddiad 1500 o eiriau  30%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad (Yn cynnwys cwestiynau byr a thraethawd)  35%
Asesiad Ailsefyll Ail gyflwyno y cwrs tymor uchod  65%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ail sefyll  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

bydd gan fyfyrwyr wybodaeth eang am bynciau sy'n ymwneud ag effaith dyn ar y blaned (yn lleol ac ar raddfa fyd-eang)

bydd myfyrwyr yn ymwybodol o (ddeddfwriaeth) gyfrifoldeb amgylcheddol

bydd myfyrwyr yn gallu cynnig datrysiadau i wella effeithlonrwydd amgylcheddol ar lefel lleol (yn enwedig yn amgylchedd busnes)

bydd myfyrwyr yn gallu ymdrin a chyllidebau carbon, sylweddoli cyfrifoldeb amgylcheddol a chynnig dulliau o leihau a gwrthbwyso allyriannau carbon.

bydd myfyrwyr yn hyderus wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gywir ac yn eglur, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae hwn yn fodiwl newydd sy'r ymdrin a chyfrifoldeb amgylcheddol, effaith dyn ar y blaned a'r angen cynyddol i fyw'r fwy cynaliadwy. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys newid hinsawdd, llygredd, iechyd a defnydd adnoddau naturiol. Cyflwynir sefyllfaoedd enghreifftiol a datrysiadau, o newidiadau mewn ymddygiad i ddefnydd amgen o egni, a hynny ar lefel yr unigolyn, ar lefel cymdeithas, ac ar lefel byd-eang. Rhoddir cyngor ymarferol i hybu effeithlonrwydd amgylcheddol yn y cartref ac yn y gweithle. Mae'r modiwl, felly, yn darparu sgiliau galwedigaethol rhagorol sy'r pontio'r bwlch pwysig rhwng theori ac arfer yn y gwyddorau amgylcheddol.
Mae ethos y modiwl yn golygu bod rhaid i'r dulliau dysgu fod yn effeithlon o safbwynt yr amgylchedd. Darperir darlithoedd yn electronic ac mae'r deunydd yn cynnwys sgriptiau darlithoedd hunan ddysgu. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'r strwythur hwn i fynd drwy ddeunydd y darlithoedd ar eu cyflymdra eu hunain. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod a syntheseiddio deunydd y darlithoedd mewn tiwtorialau a gweithdai sy'r gysylltiedig a'r darlithoedd hynny. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys flwyniad amgylcheddol sy'n seiliedig ar nifer o astudiaethau achos. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Rhestr Ddarllen


E Harland (2002) Eco-renovation p242 Green Books Publications Chwilio Primo R Murray (2002) Zero Waste GReen p211 Environmental Trust publications Chwilio Primo Wastebusters Ltd (2000) The Green Office Manual p306 2nd edition Earthscan publications Chwilio Primo http://cat.org.uk/ http://www.lsda.org.uk/Sustainable/Toolkit/

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7