Module Information

Cod y Modiwl
CY33020
Teitl y Modiwl
Y Canu Arwrol Cynnar
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Rhagofynion
Cymraeg Level 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 awr
Seminarau / Tiwtorialau 11 awr seminarau/dosbarth testunol
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


1. Byddwch wedi dysgu darllen detholiad o gerddi cynnar yn yr iaith wreiddiol (gyda chymorth nodiadau pwrpasol); byddwch yn medru trafod nodweddion llenyddol testunau dethol, ac yn medru lleoli'r testunau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

2. Drwy baratoi detholiad o destunau ar gyfer y dosbarth, byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol.

3. Byddwch wedi gwella eich sgiliau cyfieithu drwy lunio aralleiriadau o hen gerddi mewn Cymraeg Modern.

4. Byddwch wedi dysgu sut i fesur a phwyso ystod o ddadleuon cymhleth (e.e. am ddydio'r farddoniaeth).

5. Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad yr hen farddoniaeth ar nifer o awduron ar hyd y canrifoedd.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o'r Hengerdd gynharaf hyd c.700. Darllenir nifer o destunau yn y gwreiddiol (ee Canu Taliesin, Canu Aneirin), ac fe'u hystyrir yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6