Module Information
			 Cod y Modiwl
		
DA22400
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Gwaith Maes Daearyddiaeth
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2013/2014
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
 GG22420
 
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 8 x 3 darlith/sesiwn ymarferol paratoadol ar gyfer y gwaith maes | 
| Sesiwn Ymarferol | Gan ddibynnu ar y gyrchfan, efallai y treulir hyd at 12 diwrnod ar gwrs maes preswyl. | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Os na fydd myfyriwr yn mynychu?r cyfnod o waith maes, a hynny heb reswm da, yna ni fydd cyfle i ailsefyll. Bydd raid ailgyflwyno?r elfennau a fethwyd. Ni ellir ailsefyll y elfennau a basiwyd ond, yn hytrach, defnyddir y marc gwreiddiol ar gyfer yr elfen honno. Os na fydd modd i fyfyriwr fynychu?r cyfnod o waith maes am reswm dilys, bydd modd iddynt gyflwyno prosiect o 5,000 o eiriau a fydd yn adlewyrchu amcanion a nodau?r modiwl. | 100% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad(au) byr (cyfanswm o 1,500 o eiriau) | 30% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad yr unigolyn ar brosiect gr?p (2,500 gair) | 50% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar o 10 munud | 20% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Nodi problemau ymchwil cyfoes a pherthnasol yn Naearyddiaeth.
Cynllunio strategaethau ymchwil er mwyn casglu a dadansoddi data sy'r berthnasol ar gyfer y cwestiynau ymchwil hynny.
Arddangos y gallu i ddefnyddio amrediad o ddulliau casglu a dadansoddi data.
Cyfathrebu canlyniadau ymchwil trwy adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.
Disgrifiad cryno
 
 Trwy ddadansoddi themau perthnasol a chyfredol yn Naearyddiaeth, amcan y modiwl yw i roi cyfle i'r myfyrwyr i:
.1. Ddefnyddio a chymhwyso dulliau theoretig neu dechnegol i'r maes ac i werthfawrogi sut gall lleoedd neu amgylcheddau penodol ddylanwadu ar brosesau a ystyrir i fod yn gyffredinol eu natur.
.2. Ddatblygu eu gallu i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, ac i ddatrys neu ateb y rhain drwy broses o brofi hypothesis neu gynllunio ymchwil.
.3. Ystyried, lle bo'r addas, ystyriaeth o faterion ethegol yn ymwneud ag ymchwil.
.4. Ddatblygu dealltwriaeth o nodweddion lle, o wahaniaeth a'r ymdeimlad o oddefgarwch tuag at eraill.
.5. Feithrin sgiliau trosglwyddadwy, megis y gallu i weithio mewn gr'r, a sgiliau dirnadaeth a dehongli.
.6. Ddatblygu sgiliau ymchwilio yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Cynnwys
 
 Ceir cyfle i baratoi'r myfyrwyr ar gyfer y cyfnod o waith maes mewn wyth sesiwn a fydd yn gyfuniad o ddarlithoedd a gwaith ymarferol. Rhydd y sesiynau hyn gyfle i ddysgu am sgiliau gwaith maes penodol, e.e. sgiliau mapio, ynghyd a sut i ddatblygu cwestiynau ymchwil addas. Wedi hyn, ceir cyfnod o waith maes o rhwng 6 a 8 niwrnod, gyda'r union hyd yn ddibynnol ar y cyrchfan. Bydd natur y themau a drafodir ar drip gwaith maes penodol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar: natur y cyrchfan; trefniadau staffio ar drip penodol; y cyrsiau gradd y bydd y myfyrwyr wedi cofrestru ar eu cyfer. Serch hynny, bydd pob trip yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y themau canlynol:
 
.1. Dylanwadau'r ddynoliaeth ar yr amgylchedd.
.2. Peryglon naturiol.
.3. Dehongli tirluniau dynol a ffisegol.
.4. Agweddau ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol, wleidyddol ac economaidd.
.5. Agweddau ar newid amgylcheddol.
 
Bydd myfyrwyr yn cael eu rhannu i grwpiau cyfrwng Cymraeg yn ystod y sesiynau paratoadol yn ogystal ag yn ystod y gwaith maes ei hunan a bydd disgwyl iddynt gyflwyno'r asesiadau ysgrifenedig a llafar trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd oriau cyswllt ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y gwaith maes ei hunan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd y bydd dau aelod o staff cyfrwng Cymraeg yn rhan o'r tim staffio.
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y maes trwy drafodaethau grw^p, adroddiadau a’r cyflwyniad llafar. Bydd pwyslais yn y modiwl hwn ar hybu’r sgiliau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
| Datrys Problemau | Datblygir hwn wrth i fyfyrwyr i ddylunio a chwblhau prosiectau byr yn y maes, ac wrth iddynt geisio ateb cwestiynau ymchwil penodol | 
| Gwaith Tim | Datblygir hyn trwy gyfres o brosiectau ymchwil yn y maes. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am wneud eu nodiadau eu hunain, paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar a chyflwyno adroddiadau. | 
| Rhifedd | Lle bo’n addas, hyfforddir y myfyrwyr mewn dulliau ystadegol er mwyn dadnsoddi data o’r maes. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau dirnad a dehongli tirluniau. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr i gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio a chwblhau o leiaf un prosiect a fydd yn cynnwys ymdrech i: nodi problem; gynllunio prosiect; gasglu data; dadansoddi a chyflwyno data. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i’r myfyrwyr i gyflwyno adroddiadau, i wneud chwiliadau am wybodaeth a, lle bo’n addas, i ddadansoddi data trwy ddefnyddio dulliau electronig. | 
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydCloke, P. Cook, I. Crang, P. Goodwin, M. Painter, J. Philo, C. (2004) Practising Human Geography Sage Chwilio Primo Goudie, A (1990) Geomorphological Techniques Unwin Hyman Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5