Module Information

Cod y Modiwl
DA22710
Teitl y Modiwl
Hanes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 Hours. 11 x 2 awr
Darlithoedd 10 x 2 awr (cyfuniad o ddarlithoedd, cyflwyniadau myfyrwyr a thrafodaethau seminar)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Mewn grw^p, llunio poster academaidd am y berthynas rhwng pobl ar amgylchedd yn neunydd empeiraidd syn berthnasol i ddarlithoedd 2-4.  30%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar unigol ar y poster academaidd.  10%
Asesiad Semester Adroddiad 2,500 o eiriau ar hanes amgylcheddol y cyfnod modern yn un ardal o Gymru.  60%
Asesiad Ailsefyll Llunio poster academaidd am y berthynas rhwng pobl ar amgylchedd yn neunydd empeiraidd syn berthnasol i ddarlithoedd 2-4.  30%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar unigol ar y poster academaidd.  10%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwynor Adroddiad 2,500 o eiriau ar hanes amgylcheddol y cyfnod modern yn un ardal o Gymru.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth o beth yw hanes amgylcheddol.

Defnyddio enghreifftiau i drafod a gwerthuso'r prif themau o fewn hanes amgylcheddol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Datblygu eu gallu i ysgrifennu adroddiad ac i lunio hanes amgylcheddol ardal o Gymru.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o hanes amgylcheddol, sydd yn isadran gymharol newydd a chyffrous o 'Ddaearyddiaeth'. Trafodir y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd dros amser, gan ystyried y prif themau o fewn hanes amgylcheddol, sef:
a) dylanwad ffactorau amgylcheddol ar hanes pobl;
b) y newidiadau fe'u hachoswyd gan weithredoedd pobl; ac
c) hanes y syniadaeth amgylcheddol.

Cynnwys

Bydd deg sesiwn o ddwy awr yr un a fydd yn cyfuno elfen o ddarlithio, cyflwyniadau myfyrwyr a thrafodaethau seminar. Dyma strwythur y modiwl:
.1. Cyflwyniad: beth yw hanes amgylcheddol?
.2. Cynhanes a'r Hen fyd.
.3. Yr Oesoedd Canol.
.4. Y cyfnod modern cynnar, 1500-1750.
.5-8. Y cyfnod modern
a) Y chwyldro diwydiannol: ynni ac adnoddau naturiol
b) Twf poblogaeth a'r amgylchedd
c) Amaethyddiaeth, fforestydd a dw^r
d) Naturiaethwyr a Chadwraeth
.9. Ymarfer Hanes Amgylcheddol
.10. Hanes amgylcheddol byd-eang.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar a gwahanol ddulliau o ysgrifennu ar gyfer y cyflwyniad, y poster ac yr adroddiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y pwyslais cyson yn y modiwl ar gyflwyno gwybodaeth yn hyderus ar lafar, yn gryno mewn poster, ac mewn adroddiad proffesiynol. Bydd hyn o fudd i'r myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd.
Datrys Problemau Ni fydd hwn yn cael ei ddatblygu yn y modiwl ymhellach nag unrhyw broblemau gall godi yn sgil gwaith grwp a chynhyrchu poster.
Gwaith Tim Bydd y poster yn cael ei wneud fel grw^p. Anogir y myfyrwyr i gwblhau tasgau grw^p fel rhan o'r modiwl ond ni chaiff y medr hwn ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i'r myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu perfformiad eu hunain – yng nghyd-destun yr adroddiad, y poster a'r cyflwyniad llafar – ond ni asesir hyn yn ffurfiol.
Rhifedd Bydd gwybodaeth rifyddol yn cael ei ddefnyddio yn y darlithoedd yn achlysurol ond ni chaiff y myfyrwyr eu hasesu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio ar gyfer yr adroddiad a dylunio'r poster er mwyn cyflwyno'u gwaith ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth lunio'r poster a'r adroddiad (gan gynnwys mapiau, o bosib). Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr adroddiad, y poster a'r cyflwyniad llafar.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Hughes, J.D. (2006) What is Environmental History? Polity Chwilio Primo Roberts, N. (1998) The Holocene: An Environmental History Blackwell Chwilio Primo Sheail, J. (2002) An Environmental History of Twentieth-Century Britain Palgrave Chwilio Primo Simmons, I.G (1993) Environmental History: A Concise Introduction - New Perspectives on the Past Blackwell Chwilio Primo Simmons, I.G. (2001) An Environmental History of Great Britain: From 10,000 Years Ago to the Present Edinburgh University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5