Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Sesiwn Ymarferol | 22 dosbarth labordy | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol x 2 | 70% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Grwp x 2 | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
 
- cynllunio a gweithredu arbrawf gydag ond mewnbwn bychan iawn gan staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd mewn modiwlau blaenorol
Nod
Mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu sgiliau dadansoddi ac arbrofol angenrheidiol ar gyfer cyflawni arbrofion ffiseg o safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal â chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol.
Disgrifiad cryno
Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni dau arbrawf yn ystod y semester. Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump a bydd angen iddynt ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio'r offer sydd ar gael ac yna ddatblygu strategaeth arbrofol a dadansoddi canlyniadau'r arbrofion. Caiff y modiwl ei asesu mewn dwy ffordd: yn gyntaf bydd y grŵp yn rhoi cyflwyniad ar arbrawf, yn ail bydd adroddiad ffurfiol i'w ysgrifennu. Cyflwyniad unigol fydd yr adroddiad.
Cynnwys
Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrofion, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. Mewn cyferbyniad ag yn y flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn rhan ganolog o'r modiwl. Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o datblygiad gyrfa myfyriwr.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Cydran bwysig yw'r cyflwyniad grŵp o'r canlyniadau arbrofol i'w cyd-fyfyrwyr. Bydd hyn yn datblygu sgiliau cyflwyno llafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig. | 
| Datrys Problemau | Mewn cyferbyniad ag yn y flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. | 
| Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4 neu 5. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio a chyflawni arbrofion gyda chymorth gan staff. Y cymhelliad fodd bynnag yw i'r myfyrwyr arwain yr arbrofion a gweithio fel tim. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad gyrfa myfyriwr. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. | 
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn rhan ganolog o'r modiwl. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
