Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 40 awr |
| Seminarau / Tiwtorialau | 8 x seminar un awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr Exam | 66% |
| Asesiad Semester | Essay | 34% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Exam | 66% |
| Asesiad Ailsefyll | Essay | 34% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Egluro sut y mae trefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod cynigion ar gyfer diwygio;
2. Dadansoddi'r drefn bresennol a gwerthuso'r cryfderau a'r gwendidau;
3. Trafod deunyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddiadol;
4. Adnabod problemau yn y drefn gyfansoddiadol a defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer awgrymu atebion posibl (er enghraifft, gan gyfeirio at ddeunyddiau cymharol);
5. Addasu egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd o ffaith er mwyn awgrymu atebion posibl i achosion;
6. Adnabod a gwerthfawrogi'r goblygiadau i gyfraith gyfansoddiadol ddatblygiadau cyffredinol cyfraith a gwleidyddiaeth, a dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaidd / ryngwladol yn ogystal â'r rhyngweithio rhwng elfennau canolog a datganoledig y cyfansoddiad.
7. Dangos gwybodaeth o reoliad gweithgareddau gweinyddol ym Mhrydain a medru dadansoddi deddfwriaeth ac achosion allweddol.
8. Dangos dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rôl a phwerau cyfreithiol y pwyllgor gwaith.
9. Dangos dealltwriaeth o'r proses adolygu barnwrol a'i ganlyniadau.
Cynnwys
Yn gonfensiynol, rhennir cyfraith gyhoeddus yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Themâu pwysig y cwrs yw a yw hynny yn cael effaith yn ymarferol a'r ffordd y mae'r Cyfansoddiad wedi addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r hyn y mae yn ei olygu, pam ei fod felly ac a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol ymhlith y cwestiynau y byddwn yn edrych arnynt yn y cwrs hwn sy'n ceisio cyflwyno myfyrwyr i astudio cyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol ac i athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig. Mae cyfraith weinyddol yn ymwneud ag arfer grym y wlad, ac effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar y dinesydd yn cynnwys addysg, rhedeg ein carchardai, cynllunio, trafnidiaeth, system budd-daliadau lles a llawer mwy.
Disgrifiad cryno

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Paratoi, a thrafod, mewn seminarau. (Asesu? Ie (ysgrifenedig yn unig)) |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith |
| Datrys Problemau | Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau |
| Gwaith Tim | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau |
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau |
| Technoleg Gwybodaeth | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6