Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Seminarau / Tiwtorialau | 36 - 1 hour lectures via video link with Swansea University |
| Seminarau / Tiwtorialau | 8 - 1 hour seminars total |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu | 60% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad . Rhaid i fyfyrwyr ateb Tri chwestiwn.Bydd ar y papur Arholiad chwech cwestiwn, tri yn Adran A a thri yn Adran B. Rhaid i fyfyrwyr ateb o leiaf un cwestiwn or ddwy adran. NI chaniateir dod ag unrhyw destunau na nodiadau o unrhyw fath i mewn ir ystafell arholiad. | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau - os caiff yr traethawd ei fethu | 40% |
| Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau. | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Gwneud ymchwil gyfreithiol i faterion sy'n effeithio ar Gymru;
2. Dadansoddi goblygiadau deddfwrfa ddeuol a system gyfreithiol mewn dwy iaith;
3. Cysylltu cyfraith Cymru â'i gyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach;
4. Llunio darn o waith academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar y cysyniad datblygol o Gymru'r Gyfraith. Bydd y modiwl yn dadansoddi'r syniad o Gymru fel endid cyfreithiol penodol yn y cyfnod ar ôl datganoli. Bydd y modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac fe'i cyflwynir ar sail draws-sefydliadol, gydweithredol, yn unol ag ymrwymiad y brifysgol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gwerslyfr sy'n cyd-fynd â'r modiwl eisoes wedi ei lunio, a fydd yn destun craidd i fyfyrwyr sy'n astudio'r modiwl.
Cynnwys
- Swyddogaethau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
- Statws gyfreithiol yr iaith Gymraeg
- Rheithgorau dwyieithog
- Ysgolheictod cyfreithiol yng Nghymru
- Datganoli'r system gyfreithiol a datblygiad awdurdodaeth Cymru
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Y gallu i gyflwyno dadl resymedig ar faterion cyfansoddiadol a chyfreithiol dadleuol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau yn y Gymraeg wrth gyflwyno ar lafar ac yn ysgrifenedig |
| Datrys Problemau | Awgrymu a datblygu atebion i bynciau cyfansoddiadol a chyfreithiol cymhleth sy'n berthnasol i Gymru'r Gyfraith |
| Gwaith Tim | Gweithio mewn grwpiau mewn seminarau |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â Chymru'r Gyfraith, a'r gallu i ymgysylltu â'r ddadl gyhoeddus |
| Rhifedd | Dehongli data ystadegol perthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Y gallu i ddehongli pynciau a llunio dadl resymedig ar sail ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ar bynciau sy'n berthnasol i Gymru'r Gyfraith |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwil gyfreithiol ar gyfraith gyfansoddiadol, hawliau iaith, cyfraith a pholisi addysg uwch, cyfiawnder troseddol |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio cronfeydd data cyfreithiol ac adnoddau ar-lein wrth ymchwilio |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
