Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 Awr. (16 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Awr (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad 2 Awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd 3,000 o eiriau yn lle arholiad | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Deall a dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol system wleidyddol y Deyrnas Unedig.
2. Deall a dadansoddi'n feirniadol natur y berthynas rhwng sefydliadau gwleidyddol ar lefelau llywodraethiant gwahanol.
3. Ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol a natur diwylliant gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.
4. Ystyried yn ddeallus rôl cynrychiolwyr yn y system wleidyddol.
5. Defnyddio'n effeithiol y sgiliau canlynol: adnabod a lleoli ffynonellau priodol; astudio'n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG a rheoli amser.
6. Arddangos y gallu i gysylltu themau a chysyniadau a astudiwyd gyda digwyddiadau gwleidyddol cyfoes.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i wleidyddaeth gyfoes yn y Deyrnas Unedig. Mae'r modiwl yn ystyried ystod eang o faterion allweddol, gan gynnwys rôl sefydliadau gwleidyddol yn y broses o ddatblygu a gweithredu polisïau; rôl ac ideoleg y pleidiau gwleidyddol; etholiadau a chyfranogiad; diwygio cyfansoddiadol; effaith datganoli a’r refferendwm ar annibynniaeth i'r Alban ar natur yr Undeb; a'r berthynas anesmwyth rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
Cynnwys
1. Cyflwyniad: Datblygiad y Wladwriaeth Brydeinig a'i System Wleidyddol
2. Gwleidyddiaeth a Chymdeithas er 1945
3. Etholiadau, Pleidleisio, a Chyfranogiad (I)
4. Etholiadau, Pleidleisio, a Chyfranogiad (II)
5. Y Pleidiau Gwleidyddol
6. Y Prif Weinidog a'i Gabinet
7. Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil
8. Tŷ'r Cyffredin a'r Cysyniad o Gynrychiolaeth
9. Tŷ'r Arglwyddi a'r achos o blaid ei ddiwygio
10. Y System Farnwriaethol
11. Y Wasg a Gwleidyddiaeth
12. Datganoli a dyfodol y Deyrnas Unedig
13. Gogledd Iwerddon
14. Llywodraeth Leol
15. Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd
16. Casgliadau a Chyfarwyddiadau Arholiad
Nod
Mae'r modiwl hwn yn cyfrannu at ddarpariaeth dysgu israddedig (Rhan 2) Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y maesydd Astudiaethau Gwleidyddol, Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, a Gwleidyddiaeth Cymru.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi’u gairbrosesu a dylai’r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl I ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno dau draethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn I fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a’u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau'r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o’r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau y gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd gan y myfyrwyr gyfle I ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys:: • Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl • Gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o’r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a’r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6