Module Information

Cod y Modiwl
GW30320
Teitl y Modiwl
Rhyfel, Gwleidyddiaeth a Strategaeth
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 Hours. (16 x 1 awr) (yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar  10%
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.)   50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fedru:

- Cloriannu'n feirniadol y llenyddiaeth ar achosion rhyfel
- Trafod amrediad o gysyniadau allweddol a digwyddiadau hanesyddol a chyfoes mewn perthynas ag esblygiad rhyfel
- Deall rol cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel
- Cloriannu'r damcaniaethau croes ynghylch a ellir rheoli neu ddileu grym yn offeryn mewn cysylltiadau rhwng gwladwriaethau.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen ddadansoddol i astudio rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cynnig sylfaen gynhwysfawr (cysyniadau, damcaniaethau, hanes) i ddeall ac esbonio materion pwysicaf rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth yn y byd cyfoes.

Cynnwys

Pedair rhan sydd i'r modiwl:
(1) achosion rhyfel;
(2) esblygiad rhyfel;
(3) cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel;
(4) rheoli a dileu rhyfel.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, dirnad a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Trwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a sgiliau sylfaenol wrth drin rhifau a hunanreolaeth Yn ystod y darlithiau bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a llunio nodiadau, yn ogystal a'u sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau dadansoddi, esbonio a dadlau, yn ogystal a gwaith tim a datrys problemau. Wrth ysgrifennu traethodau bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymarfer eu sgiliau ymchwil annibynnol, eu sgiliau ysgrifennu a sgiliau TG, a bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar y sgiliau hyn dan gyfyngiadau amser.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
George a Lopez and Nancy J Myers (eds) Peace and Security: The Next Generation Chwilio Primo Seyom Brown The Causes and Prevention of War (2nd Edition) Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6