Module Information

Cod y Modiwl
GW36220
Teitl y Modiwl
Hanes Rhyngwladol 1895-1945: Argyfwng Yr Hanner Can Mlynedd
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 19 Hours. (19 x 1 awr) (yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 9 Hours. (9 x 1 awr Seminarau) (yn Gymraeg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethodau: 1 x 2,000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn medru esbonio:

- y newidiadau yng nghydbwysedd grym a'u cysylltiad a'r ddau Ryfel Byd
- pam y bu'r Unol Daleithiau a'r UGSS yn chwarae rol ymylol yn ol pob golwg yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
- pam na chafwyd heddwch sefydlog ar ol 1919
- effaith ideolegau ar gysylltiadau rhyngwladol
- datblygiadau mewn syniadau ac arferion rheolaeth economaidd ryngwladol
- cronoleg a tharddiad tranc ymerodraeth
- y graddau yr oedd 1945 ei hun yn drobwynt radicalaidd

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnig cyd-destun i ddeall cysylltiadau rhyngwladol yn yr ugeinfed ganrif trwy ymchwilio i ddatblygiadau yng nghydbwysedd grym, syniadau am drefn ryngwladol, newid cymdeithasegol -economaidd, a thyndra o fewn yr ymerodraethau Ewropeaidd hyd at 1945.

Nod

Amcan y modiwl yw astudio'r newidiadau dirfawr a ddigwyddodd yn y gyfundrefn ryngwladol yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Mae'n gwneud hynny trwy annog myfyrwyr i feddwl yn thematig am y cyfnod fel un a aeth trwy gyfres o argyfyngau cysylltiedig rhwng 1895 a 1945.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn agor trwy ddadansoddi'r symud a fu yng nghydbwysedd grym yn Ewrop, yn ogystal a thwf y pwerau newydd y tu allan i Ewrop. Cysylltir hyn yn ei dro a syniadau newydd am reoli'r drefn ryngwladol, fe y' gwelir yn y Ddiplomyddiaeth Newydd ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r mynd yn ei flaen wedyn i ystyried argyfwng yn y drefn wladol a grewyd gan y cynnwrf economaidd a chymdeithasol yn sgil diwydiannu a gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au. Yn olaf mae'r modiwl yn gosod cyfnod olaf yr ymerodraethau Ewropeaidd a'r tyndra a ddatblygodd o'u mewn yng nghyd-destun y datblygiadau eraill hyn.

Sgiliau trosglwyddadwy

Ibaratoi ar gyfer seminar mae angen i fyfyrwyr ddarllen a meddwl yn feirniadol a chysyniadol am themau a materion hanesyddol a gwleidyddol penodol. Caiff sgiliau cyfrifiadurol a thechnoleg gwybodaeth eu datblygu trwy ddefnyddio e-bost ac adnoddau dysgu ar y we. Mae paratoi ar gyfer seminar a gwaith cwrs yn annog myfyrwyr i ddatblyfu eu gallu u ymchwilio'n annibynnol. Mae traethodau gwaith cwrs a asesir yn datblygu'r gallu i ysgrifennu'n ddadansoddol a gosod safbwynt, yn ogystal a phrosesu geiriau a defnyddio technoleg gwybodaeth. Mae gofynion paratoi gwaith seminar a gwaith cwrs yn annog myfyrwyr i drefnu eu gwaith a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae trafodaethau mewn grwpiau seminar yn meithrin a datblygu cyfathrebu llafar a sgiliau dadlau, yn ogystal a'r gallu i drafod cwestiynau yn feirniadol a chyflawni tasgau ar y cyd.

10 credydau ECTS

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6