Module Information
			 Cod y Modiwl
		
HA10620
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Y Dirwasgiad Mawr: Hanes Cymharol America a Phrydain
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2013/2014
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 18 x 1 awr | 
| Seminarau / Tiwtorialau | 1 seminar pob pythefnos | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr 2 AWR, 2 GWESTIWN ARHOLIAD | 70% | 
| Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD x 2,500 O EIRIAU | 30% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
 1.	Disgrifio ac asesu datblygiadau'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn America a Phrydain;
 2.	Amgyffred canlyniadau gwahanol y dirwasgiad mawr ar bobl America a Phrydain;
 3.	Dadansoddi hanesyddiaeth y dirwasgiad mawr;
 4.	Gwerthuso tystiolaeth wreiddiol, megis llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau, 
 posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth poblogaidd;
 5.	Ynganu dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar.
 
Disgrifiad cryno
 
 Bu'r Dirwasgiad Mawr rhwng y ddau ryfel byd yn nodwedd a ddiffiniodd yr ugeinfed ganrif. Cafodd effaith ar ran fwyaf o'r byd a bu ei ganlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol yn ddwfn a phell-gyrrhaeddol. Mae'r cwrs hwn yn ystyried y Dirwasgiad Mawr trwy gyfrwng astudiaeth gymharol o America a Phrydain gan archwilio'r ffactorau economaidd a achosodd broblemau economaidd mawr, maint a natur diweithdra ac atebion y ddwy lywodraeth i'r problemau y bu rhaid eu gwynebu yn y degawdau `low, dishonest.? 
Hefyd, mae'r cwrs yn cymryd golygfa `oddi isod? gan ystyried y profiad o ddiweithdra a thlodi trwy ddefnyddio lleisiau y di-waith a'r tlawd. Mae'r ystyried yr atebion cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol i'r Dirwasgiad, megis gwleidyddiaeth adain-dde ac adain-chwith, mudo ac ymfudo, a chysylltiadau cenedl a llafur. Mae natur y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel byd yn parhau i achosi amrywiaeth barn ymysg haneswyr a bydd y cwrs hwn yn trafod y syniadau hyn ynghyd a dehongliadau adolygiadol. Bydd y cwrs yn defnyddio tystiolaeth wreiddiol gan gynnwys llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau, posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth poblogaidd.
 
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydJ. Stevenson a C. Cook (1994) Britain in Depression: Society and Politics 1929-39 Llundain Chwilio Primo Keith Laybourn (1990) Britain on the Breadline: A Social and Political History of Britain between the Wars Caerloyw Chwilio Primo Matt Perry (2000) Bread and Work: Social Policy and the Experience of Unemployment, 1918-39 Llundain Chwilio Primo R. McElvaine (1984) The Great Depression: America, 1929-1941 Efrog Newydd Chwilio Primo Richard S. Kirkendall (1974) The United States 1929-1945. Years of Crisis and Change Llundain Chwilio Primo Studs Terkel (gol.) (1970) Hard Times: An Oral History of the Great Depression Llundain Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4