Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | |
| Seminarau / Tiwtorialau | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Asesiad Atodol Arholiad caeedig 2 awr ac iddo 2 gwestiwn, ac unrhyw waith ysgrifenedig sydd ar goll. | 70% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr Asesiad arholiad 1 arholiad 2 awr | 70% | 
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad Atodol Dylid cyflwyno traethodau ar gyfer ailsefyll ar wahanol destun i?r rhai a fethwyd. | 30% | 
| Asesiad Semester | Asesiad Semester 1 traethawd 2,500 o eiriau | 30% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau yn y maes yn perthyn i'r cyfnod.
Myfyrio ar a dadansoddi'r feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.
Gweithio'r annibynnol.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i hanes diwylliannol a deallusol oes Fictoria. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio ystod o themau megis addysg, crefydd, diwylliant poblogaidd a gwyddoniaeth. Fe fyddant yn cael cyfle i brofi nifer o agweddau hanesyddiaethol gwahanol tuag at y cyfnod ac i ddatblygu gwybodaeth o'r adnoddau hanesyddol gwahanol sydd ar gael er mwyn astudio oes Fictoria.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. | 
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr i nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol ar gyfer seminarau a thraethodau. | 
| Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gydweithio o fewn tïm drwy weithgarwch y seminar. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dychwelir gwaith ysgrifenedig o fewn tiwtorial a rhoddir cyngor ar sut i wella ar dechnegau ymchwil ac ysgrifennu y myfyrwyr. | 
| Rhifedd | Amherthnasol | 
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. | 
| Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu gwaith academaidd addas. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r rhyngrwyd yn addas | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
