Module Information

Cod y Modiwl
TC30320
Teitl y Modiwl
Ymarfer Theatr Allweddol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill 10 sesiwn wylio x 2 awr
Eraill 10 sesiwn wylio x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol mewn grwp (15-20 munud)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Ymarferol (15-20 munud)  50%

Canlyniadau Dysgu

Arddangos gwybodaeth eang o'r ymarferwyr a drafodir yn ystod y modiwl; Arddangos gallu i werthuso a gosod gwaith yr ymarferwyr mewn cyd-destun priodol

Arddangos gallu i gymhwyso gwybodaeth theoretig a hanesyddol wrth drafod gwaith ymarferol; Arddangos gallu i ymateb yn ymarferol i'r syniadau a'r wybodaeth a gyflwynir yn y modiwl

Arddangos gallu i drefnu cyflwyniadau ymarferol mewn grwp mewn ymateb i waith yr ymarferwyr a drafodir

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i fyfyrwyr i waith nifer o ymrferwyr enghreifftiol allweddol ym myd theatr a pherfformio. Nod y modiwl fydd rhoi profiad i'r myfyrwyr o asesu natur bywyd a gwaith unigolyn, ac i ddechrau gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun priodol a fydd yn helpu i oleuo ymwybyddiaeth y myfyrwir o natur y digwyddiad perfformiadol.

Fe fydd cynnwys y modiwl yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ganolbwyntio ar nifer o wahanol fathau o ymarferwyr, ond gan ddefnyddio'r un egwyddorion a'r un arfau academaidd wrth fynd i'r afael a'u bywyd a'u gwaith. Rhoddir pwyslais arbennig ar natur y distiolaeth sydd ar gael o waith yr ymarferwr, cyd-destun cymdeithasol a berniadol y gwath hwnnw, a'r math o ymarferion sy'n angenrheidiol er mwyn ceisio deall ac agoshau yn ddychmygol at y gwaith hwnnw mewn sesiynau stiwdio.

Cynnwys

(Rhoddir yma batrwm o gynnwys engreifftiol yn seiliedig ar bump ymarferwr a allai fod yn sail i astudiaethau'r modiwl: sef Konstantin Stanislavski, Antonin Artaud, Pina Bausch, Augusto Boal a Brith Gof)

Seminarau:

Stanislavski

Astudiaeth Achos 1: Bywyd a Gwaith Konstanin Stanislavski
Astudiaeth Achos 2: Dylanwadau ar Syniadau Stanislavski, a Dylanwad ei Waith yn Ewrop, America a Chymru

Artaud:

Astudiaeth Achos 1: Bywyd a Gwaith Antonin Artaud
Astudiaeth Achos 2: Dylanwadau ar Syniadau Artaud, a Dylanwad ei Syniadau ar 'Theatr Gorfforol'

Bausch:

Astudiaeth Achos 1: Bywyd a Gwaith Pina Bausch
Astudiaeth Achos 2: Dylanwadau ar Syniadau Bausch, a Dylandwad ei Gwaith ar Tanztheater

Boal:

Astudiaeth Achos 1: Bywyd a Gwaith Augosto Boal
Astudiaeth Achos 2: Dylanwadau ar Syniadau Boal, a Dylanwad ei Waith ar 'Theatr y Gormesedig'

Brith Gof:

Astudiaeth Achos 1: Gwaith a Datblygiad Brith Gof
Astudiaeth Achos 2: Dylanwadau ar Brith Gof, a Dylanwad Gwaith y Cwmni


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn cael eu datblygu trwy gydol y modiwl wrth i'r myfyrwyr drafod a chyflwyno syniadau yn lafar mewn seminarau, ac wrth iddynt gyfaddasu'r syniadau hynny'n waith corfforol a gofodol yn y sesiynau ymarferol. Fe fydd aseiniadau'r modiwl hefyd yn datblygu ac yn asesu gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu'n effeithiol: fe fydd traethawd yn eu galluogi i arddel ac ymestyn y sgiliau dadlau ac ymresymu a ddatblygwyd ganddynt eisioes yn ystod eu cwrs gradd; ac fe fydd y cyflwyniadau ymarferol yn eu galluogi i roi gwedd greadigol a chorfforol ar y sgiliau hynny
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd y modiwl yn gosod cymaint o bwyslais ar y sgiliau hyn ag y ceir mewn rhai o fodiwlau eraill y cynllun gradd, ond fe fydd yn galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth sylfaenol o'u medrau personol, o'u safbwyntiau a'u nodweddion personol, mewn perthynas a gweddill eu cwrs gradd, ac o bosibl eu gyrfa yn y theatr a'r cyfryngau perfformio.
Datrys Problemau Un o sylfeini'r modiwl fydd gallu'r myfyrwyr i ddarganfod a datblygu dulliau o ddadansoddi a thrafod gwaith yr ymarferwyr a astudir. Fe fydd y rhain yn wahanol ar gyfer pob ymarferwr, ac felli gofynnir i'r myfyrwyr ddatblygu ymateb neilltiol i waith bob un o'r ymarferwyr yn eu tro, ond gofynnir iddynt hefyd i ystyried sut y mae gwaith pob un o'r ymarferwyr yn effeithio ar eu canfyddad o ffurf a phriodoleddau theatr a pherfformio'n gyffredinol. Fe fydd y traethawd ysgrifenedig a'r aseiniadau ymarferol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymateb yn ddadansoddiadol a chreadigol i'r problemau sylfaenol hyn' ac fe fydd trefn yr aseiniadau yn rhoi cyfle iddynt hefyd i adfyfyrio ar fanteision ac anfanteision yr atebion a gynigwyd ganddynt.
Gwaith Tim Fe fydd y seminarau yn galluogi'r myfyrwyr i weithio mewn amgylchfyd lle mae cydgyfrannu at nod cyffredin yn ran gynhenid o'r profiad o ddysgu. Fe fydd yr aseiniadau ymarferol yn gofyn i'r myfyrwyr weithredu fel tim wrth ddosrannu roliau gweithredol o fewn eu grwp, gosod targedau i'w hunain a'i gilydd, cydnabod a datblygu arbenigeddau unigol a fydd yn cyfrannu at lwyddiant y gwaith grwp yn ei gyfanrwydd. Fe fydd y ddau gyflwyniad grwp ymarferol yn caniatau iddynt werthuso eu llwyddiant a chyrhaeddant eu grwp a'u cyfraniad eu hunain.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ganolbwyntio ar nifer o wahanol ymarferwyr, fe fydd y modiwl yn datgelu nifer o wahanol fathau o ddulliau dysgu i'r myfyrwyr. Mae'r ffaith fod gan y modiwl nifer o wahanol fathau o ddulliau dysgu (seminarau, sesiynau ymarferol a sesiynau gwylio) yn fodd i helpu'r myfyrwyr sylwi ar eu hymateb i wahanol symbyliadau, ac i ddod yn fwy ymwybodol o'u hoffterau a'u hangenion personol, a hefyd rhai o'r rhwystrau posibl i'w dysgu eu hunain. Wrth ofyn i'r myfyrwyr baratoi cyflwyniadau ysgrifenedig ac ymarferol mewn grwp, fe fydd y modiwl hefyd yn eu tywys tuag at weithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth. At hynny, gan fod dau gyflwyniad ymarferol fel rhan o asesiad y modiwl, fe fydd yr adborth a roddir i'r myfyrwyr ynglyn a pharatoi a chyflwyno gwaith o'r fath rhwng y ddau gyflwyniad yn ffordd o helpu'r myfyrwyr i gynllunio'u gweithredu personol, gosod targedau iddyn nhw eu hunain, ac i arolygu a monitro'u cynnydd.
Rhifedd Ni ddatblygir y medrau hyn yn ystod y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Wrth i'r modiwl fynd yn ei flaen, fe roddir mwy a mwy o gyfleon i'r myfyrwyr ddatblygu eu medrau ymchwilio (dyma un o'r prif resymau dros gyflwyno'r modiwl fel un hir a thenau). Fe fydd y trafodaethau seminar yn seiliedig ar ddehongli deunydd a fydd wedi'i gyflwyno i'r myfyrwyr ar ffurf pecynnau darllen: fe fydd y rhain yn rhoi model i'r myfyrwyr o ddeunydd ymchwil defnyddiol. Fe fydd y traethawd ysgrifenedig yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiad academaidd yn seiliedig ar yr ymchwil seminar hwn, a thrwy gyfrwng yr adborth ga gynigir iddynt, i werthuso'u cynllun a'u dulliau gweithredu ymchwil. At hynny, fe fydd y myfyrwyr eu hunain un cyflawni gwaith ymchwil, gan gymhwyso a chyfaddasu eu profiad blaenorol, wrth baratoi eu cyflwyniadau ymarferol.
Technoleg Gwybodaeth Fel sy'n arfer cyffredin erbyn hyn ar nifer o fodiwlau'r Adran, fe fydd cryn lawer o'r deunyddiau a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn ystod y modiwl ar gael ar syste Blackboard y Brifysgol. Fe fydd y modiwl hwn, fel nifer o rai eraill, yn rhoi cyfle o'r myfyrwyr arddel eu sgiliau Technoleg Gwybodaeth wrth gyrchu ac ymateb y deunyddiau hyn. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u gwaith ysgrifenedig (fel ym mhob achos yn yr Adran) wedi'i brosesu'n eiriol; ac fe fydd y cyflwyniadau ymarferol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddefnyddio meddalwedd megis Powerpoint wrth gyflwyno deunydd gweledol neu seiniol priodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6