Module Information

Module Identifier
TC30720
Module Title
Theatr Gymwysiedig
Academic Year
2013/2014
Co-ordinator
Semester
Semester 2

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture Darlith/Seminar 1 x 2 awr yr wythnos
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Dernyn ymarferol Grwp (20 munud)  50%
Semester Assessment Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Supplementary Assessment Dernyn ymarferol unigol (10 munud) a sylwebaeth  50%
Supplementary Assessment Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Arddangos dealltwriaeth o'r egwyddorion addysgiadol, theatraidd a deallusol cyfredol sy'n dylanwadu ar weithgarwch Theatr Gymhwysiedig; Arddangos gallu i gymhwyso'r egwyddorion hyn trwy lunio gwaith ysgrifenedig annibynnol ac wrth gynllunio a chreu gwaith ymarferol mewn grwp.

Arddangos gallu i gyfrannu'n gadarnhaeol at waith ymarferol, gan ddatblygu a chymhwyso sgiliau rhyngbersonol, creadigol, ac ehangu sgiliau ymchwil wrth greu dernyn ymarferol o Theatr Gymhwysiedig

Arddangos gallu i gyflwyno gwerthusiad beirniadol o'r modd y mae proses yn rhan allweddol bwysig o'r profiad o gyflwyno Theatr Gymhwysiedig i'r perfformiwr ac i'r gynulleidfa; Arddangos arbenigedd ac annibyniaeth ddeallus wirth adfyfyrio, yn ymarferol ac ysgrifenedig, ar y berthynas rhwng perfformwyr a chyfranogwyr mewn digwyddiadau Theatr Gymhwysiedig.

Brief description

Cynlluniwyd y modiwl hwn er mwyn cynnig cyflwyniad i Theatr Gymhwysiedig trwy ddadansoddi gwaith nifer o ymarferwyr blaenllaw, o Brydain a thu hwnt, o'r gorfennol a'r presennol. Fe fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ymarferol o'r sgiliau a'r prosesau sy'n hanfodol wrth greu Theatr Gymhwysiedig, ac yn gosod enghreifftiau cyfredol o ymarfer mewn cyd-destun hanesyddol a theoretig. Disgwylir i'r myfyrwyr gymhwyso'r ymwybyddiaeth a'r wybodaeth honno trwy ddyfeisio dernyn ymarferol o waith Cymhwysiedig fel rhan o asesiad y modiwl.

Content

Dysgir y modiwl hwn trwy gyfryng 10 x 1 darlith/seminar awr a 5 x darlith/gweithdy ymarferol 2 awr, a fydd wedi'u harwain gan aelodau staff. bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio yn y dosbarthiadau darlith/seminar a chymhwysir y syniadau ymhellach yn y gweithdai:

1. Diffiniadau o Theatr Gymhwysiedig a'r theoriau mwyaf blaenllaw

2. Theatre-mewn-Addysg (ThMA), theatr gymunedol a pherfformio radical

3. ThMA fel cyfrwng dysgu: diffiniadau a chyd-destun

4. Hyrwyddwyr, cyfarwyddwyr a chyfranogwyr-berfformwyr: eu roliau gwahanol

5. Arianu, gwleidyddiaeth a'r Cwricwlwm Cenedlaethol: Perthynas y gwaith ag awdurdod

6. Theatr mewn ysbytai, carchardai a thu hwnt

7. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy

8. Y gynulleidfa a'r gofod

9. Technegau Ymchwil

10. Gwerthuso rhaglenni Theatr Gymhwysiedig

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Fe fydd y gwahanol fathau o gyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a drafodir ar y modiwl (yn ogystal a'r ystod eang o roliau y disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a hwy wrth baratoi'r Dernyn Ymarferol) yn galluogi'r myfyrwyr i ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer gyrfa yn y maes hwn yn fwy eglur
Communication Un o sylfeini'r modiwl fydd datblygu gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu gyda'i gilydd a gyda chynulleidfaeodd o fathau gwahanol. Fe fydd y ddau asesiad yn ystyried a gwerthuso gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu'n ebrwydd
Improving own Learning and Performance Fe fydd disgwyl i'r myfyrwyr werthuso eu cyrhaeddiad a'u perfformiad eu hunain fel prawf o'u dealltwriaeth o'r modiwl ac o'r dulliau darganfyddol o addysgu y mae'n eu cyflwyno
Information Technology Cyfeirir at faterion yn ymwneud a chyllido a sicrhau nawdd cyhoeddus ar gyfer Theatr Gymhwysiedig wrth gyflwyno'r modiwl, ond ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol
Personal Development and Career planning Fe fydd y myfyrwyr yn archwilio ystod o wahanol ddulliau o greu perfformiadau Theatr Gymhwysiedig ar gyfer cymunedau a chynulleidfaeodd penodol
Problem solving Fe fydd nodi problemau, datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau, ar gwerthuso atebion posibl yn elfennau allweddol o'r modiwl hwn. Canolbwynt gwaith nifer o ymarferwyr a chyfranogwyr mewn darnau Theatr Gymhwysiedig yw ceisio dyfeisio strategaethau er mwyn datrys problemau yn fanwl yn ystod y modiwl
Research skills Cyflwynir nifer o sgiliau a strategaethau ymchwil (fel sy'n gyson a'r gwahanol mathau o theatr a'r gwahanol gyd-destunau ymarferol a gyflwynir wrth drafo Theatr Gymhwysiedig). fe fydd cyfle i'r myfyrwyr i gymhwyso'r rhain a datblygu eu sgiliau ymchwil eu hunain trwy baratoi argyfer, ac yn sgil, darlithoedd a'r gweithdai ymarferol; ac fe gant eu hasesu mewn perthynas a'r Traethawd a'r Dernyn ymarferol o berfformiad.
Subject Specific Skills
Team work Mae datblygu sgiliau gwaith tim yn rhan gynhenid o'r modiwl (o ran astudiaeth o astudiaethau achos y darlithoedd a'r broses o gydweithio mewn grwp). Fe fydd yn cael ei asesu wrth i diwtor y modiwl ystyried cyfraniad y myfyrwyr i waith dosbarth a gweithdy ac wrth greu'r Dernyn Ymarferol

Notes

This module is at CQFW Level 6