Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | Sesiwn briffio ar ddechrau'r semester |
| Seminarau / Tiwtorialau | 9 x seminar 2 awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Seminar | 40% |
| Asesiad Semester | Erthygl cylchgrawn | 30% |
| Asesiad Semester | Tudalen ar y we a Phodlediad | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Ymchwilio a chrynhoi pynciau sydd o ddiddordeb cyfredol i'w gradd
2. Cyflwyno a dadlau eu crynodebau yn llafar mewn fformat seminar
3. Llunio erthygl 500 gair sydd wedi'i gynllunio i gyfathrebu'r pwnc i gynulleidfa gyffredinol
4. Llunio tudalen ar y we a phodlediad
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau o ddiddordeb cyfredol sy'n berthnasol i'w gradd. Cyflwynir un pwnc ar fformat seminar ac erthygl cylchgrawn, ac ail bwnc ar fformat tudalen ar y we sydd hefyd yn cynnwys darllediad radio / podlediad 5 munud.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnwys 8 x sesiwn 2 awr ar gyfer cyflwyniadau seminarau unigol. Caiff myfyrwyr eu briffio am y sgiliau cyflwyno gofynnol ar ddechrau'r Semester. Llunnir amserlen seminarau, a disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu cyflwyniadau PowerPoint yn electronig cyn dechrau'r gyfres o seminarau. Rhoddir adborth priodol ar ol i'r seminar gael ei gyflwyno. Dylai pob seminar bara tua 15 munud, ac ar ol hynny ceir trafodaeth gyffredinol. Disgwylir i'r holl fyfyrwyr fynychu a chyfrannu'n llawn at y drafodaeth ar bob pwnc. Cyn sesiwn olaf y Semester, mae'n rhaid i'r wefan, a'r podlediad ynddo, fynd yn fyw.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu ymchwil i gynulleidfa gyffredinol, ac asesir fformatau gwahanol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfathrebu, sydd yn allweddol i wella cyflogadwyedd |
| Datrys Problemau | Mae'r sgil hon yn elfen allweddol o'r modiwl, sef gweithio allan sut i grynhoi gwybodaeth a'i chyflwyno mewn fformat hygyrch |
| Gwaith Tim | Anogir myfyrwyr i holi ei gilydd ar ôl y cyflwyniadau seminar, ac mae elfen o waith tîm |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwella dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, cyfathrebu a gwaith tîm |
| Rhifedd | Ddim yn elfen bwysig yn y modiwl |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn gofyn i fyfyrwyr gymathu gwybodaeth o lenyddiaeth academaidd |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir amrywiaeth o fformatau TG yn ystod y modiwl hwn |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
