Module Information

Cod y Modiwl
DA10910
Teitl y Modiwl
Methodoleg Maes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Caiff y modiwl ei dysgu dros un penwythnos. Bydd hyn yn cyfuno elfennau o ddarlithoedd, semiarau a gwaith maes.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar grwp. Yn seiliedig ar un o'r diwrnodau maes.  10%
Asesiad Semester Adroddiad 1,500 gair ar waith diwrnod 1.  45%
Asesiad Semester Poster academaidd maint A0 ar waith diwrnod 2.  45%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll elfennau a fethwyd.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:

  • Trafod cyfaddasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy'n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr
  • amgylchedd a defnydd tir;

* Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes;

*Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes;

* Deall, dehongli a gwerthuso data maes;

* Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnydd tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.








Nod

Amcan y modiwl hwn yw:
1. Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng
nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol).
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar y cyd a staff o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe. Dysgir myfyrwyr o'r ddau sefydliad hyn hefyd ar y modiwl. Dysgir y modiwl ar un penwythnos; naill ai yn Aberystwyth, Abertawe neu Bangor, gan gynnwys amrywiaeth o themau o ddaearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth ddynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu data maes yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy drafodaethau grwp, gwaith cwrs a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Wedi'i ddatblygu drwy gyflawni'r gwaith maes.
Gwaith Tim Wedi'i ddatblygu drwy prosiectau gwaith maes ac wrth baratoi a’r weithred o gyflwyno ar lafar mewn grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gadw nodiadau maes eu hun, paratoi cyflwyniad llafar a chyflwyno darnau gwaith cwrs unigol
Rhifedd Pan fo'r angen, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn dulliau ystadegol i ddadansoddi eu data maes.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith cwrs a bydd angen iddynt ymarfer ystod o sgiliau ymchwil, casglu data, dadansoddi, cyflwyno a dehongli.
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen i'r gwaith cwrs, chwiliadau llenyddiaeth/gwybodaeth a dadansoddi data gael ei wneud yn ddigidol.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Cloke, P. (2000) 'Place' in P. Cloke et al (ed) Introducing Human Geographies Arnold Chwilio Primo Cresswell, T. (2000) 'Place' in P. Cloke et al (ed) Introducing Human Geographies Arnold Chwilio Primo Flowerdew, R. & Martin, D. (ed) (1997) Methods in Human Geography Pearson Education Chwilio Primo Goudie, A. (1994) Geomorphological Techniques Routledge Chwilio Primo Hoggart, K. et al (2002) Researching Human Geography Arnold Chwilio Primo Hughes, G. (1996) Welsh Agriculture into the New Millennium Welsh Institute of Rural Studies Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4