Module Information

Cod y Modiwl
FG05510
Teitl y Modiwl
Ffiseg Labordy 2
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Ddim ar gael i fyfyrwyr ar gynllun gradd Ffiseg 3 blynedd BSc (anrhydedd) na chynllun gradd MPhys
Rhagofynion
PH05010 a TGAU Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gyfatebol.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 11 sesiwn ymarferol pob un yn 3 awr o hyd.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur Labordy  60%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar Powerpoint (drwy'r Gymraeg)  20%
Arholiad Ailsefyll 8 Awr   Experimental exam  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
- cyflawni arbrofion syml mewn Ffiseg
- cymhwyso dulliau dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau
- diddwytho casgliadau priodol o'r canlyniadau
- cyflwyno eu gwaith mewn dyddiadur labordy, adroddiad ffurfiol a chyflwyniad Powerpoint

Nod


Mae'r modiwl sylfaen hwn yn adeiladu ar y modiwl labordy PH05010 gan barhau i hyfforddi'r myfyrwyr mewn ymarfer labordy dda. Mae'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith labordy Blwyddyn 1 israddedig (FfCChC Lefel 4).

Disgrifiad cryno

Adeilada'r modiwl ar y rhagarweiniad a roddwyd ym modiwl PH05010 i Ffiseg arbrofol. Mae'r pwyslais yn parhau ar hyfforddi'r myfyrwyr i ddefnyddio cyfarpar labordy sylfaenol, ar gymhwyso'r technegau dadansoddi cyfeiliornad a gyflwynwyd yn y modiwl blaenorol, ac ar ddehongli canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynnol. Datblygir sgiliau cyflwyno gwaith yng nghyd-destun yr arbrofion.

Cynnwys


Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion o wahanol feysydd o Ffiseg yn cynnwys: Osgiliadau a Thonnau, Ffiseg Thermol a Thrydan a Magneteg. Bydd y myfyrwyr yn cyflawni'r arbrofion mewn system cylchdro yn ystod y semester. Er mwyn cyflwyno'r gwaith disgwylir i bob myfyriwr gadw Dyddiadur Labordy yn nodi'n fanwl y cynnydd ym mhob arbrawf, paratoi adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a thraddodi cyflwyniad llafar gan ddefnyddio PowerPoint.







Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy Ddyddiadur Labordy ac Adroddiad Ffurfiol. Datblygir sgiliau llafar drwy gyflwyniad llafar ar arbrawf.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae gwaith labordy yn elfen bwysig ar gyfer cynllunio gyrfa mewn Ffiseg.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn rhan annatod o waith labordy Ffiseg.
Gwaith Tim Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn parau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i'r myfyrwyr ystyried eu mesuriadau a'u canlyniadau yn feirniadol. Asesir elfennau o'r cwrs yn ystod y semester fel bo'r myfyrwyr yn cael cyfle i adlewyrchu ar eu perfformiad yn ystod y modiwl.
Rhifedd Mae rhifedd yn elfen annatod o arbrofion Ffiseg.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r arbrofion wedi eu sylfaenu ar destunau Ffiseg.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio er mwyn cymharu eu canlyniadau â theori cydnabyddedig.
Technoleg Gwybodaeth Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o waith labordy.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Tipler, Paul Allen (c2008.) Physics for scientists and engineers :with modern physics /Paul A. Tipler, Gene Mosca. 6th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo

Nelkon, Michael. (1995.) Advanced level physics /Michael Nelkon, Philip Parker. 7th edition. Heinemann Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3