Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 Awr (16 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Awr (7 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (2 x awr) | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr (2 x awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x draethawd 1,000 o eiriau'r un | 25% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x draethawd 1,000 o eiriau'r un, os methwyd y traethawd | 25% |
Asesiad Semester | 1 x draethawd 1,000 o eiriau'r un, os methwyd y traethawd | 25% |
Asesiad Semester | 1 x draethawd 1,000 o eiriau'r un | 25% |
Canlyniadau Dysgu
1. Dangos dealltwriaeth ddofn a systematig o'r cysyniad o'r wladwriaeth a dealltwriaethau amrywiol o'i ddechreuad a'i gymhwysedd.
2. Dangos gwybodaeth dda am y rhesymau dros ddatblygiad gwladwriaethau, gan gynnwys ymwybyddiaeth o bynciau megis datblygiad economaidd, cenedlaetholdeb, imperialaeth, concwest filwrol, a chymdeithasau gwladychwyr.
3. Dangos yr ymwybyddiaeth feirniadol i allu dadansoddi materion cymhleth sy'n berthnasol i'r modiwl, a chydosod a strwythuro deunydd dadansoddol yn rhesymol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrosesau sydd yn flaenllaw yn y maes.
4. Ymwneud yn broffesiynol mewn cyfathrebu academaidd drwy ddiffinio mater, cyflwyno ei oblygiadau yn effeithiol, diddori cynulleidfa yn llafar a gyda deunyddiau clyweled, ac ymateb yn effeithiol i gwestiynau.
5. Defnyddio lefel dealltwriaeth gysyniadol a damcaniaethol fydd yn caniatau iddynt werthuso'n feirniadol (a chymhwyso) damcaniaeth i broblem ryngwladol benodol, a dadansoddi agweddau gwahanol.
6. Ymwneud yn feirniadol a chymhwyso ymchwil a sgiliau cyflwyniadol i faterion cymhleth o fewn llywodraethiant byd-eang.
Disgrifiad cryno
Er mwyn gwerthuso'r wladwriaeth ei hunan, bydd y modiwl yn edrych yn fanwl ar y prosesau a'r rhesymau dros ffurfio gwladwriaeth. Bydd hyn yn annog ymchwilio themau pellach megis datblygiad economaidd, cenedlaetholdeb, ac effaith concwest a goresgyniad milwrol ar strwythurau gwleidyddol tiriogaeth wedi hynny.
Cynnwys
1. Cyflwyniad: Gorolwg o'r Modiwl
2. Diffinio'r wladwriaeth
3. Y wladwriaeth gynhanesyddol
4. Darlith fideo yn seiliedig ar bennod o Ancient Worlds gan y BBC a Richard Miles
5. Gwladwriaeth y ddinas 1: y Groegiaid
6. Gwladwriaeth y ddinas 2: Eidal y Dadeni
7. Y wladwriaeth y tu allan i Ewrop
8. Ffurfiau amgen i drefniadaeth wleidyddol
9. Y wladwriaeth a'r genedl
10. Y wladwriaeth a'r economi
11. Y wladwriaeth a choncwest filwrol
12. Trefedigaethrwydd a'r wladwriaeth
13. Y wladwriaeth a'r boblogaeth
14. Y wladwriaeth ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain
15. Casgliad
16. Paratoi at yr arholiad
Rhestr Debygol o Seminarau
1. Diffinio'r wladwriaeth
2. Y wladwriaeth gynhanesyddol
3. Gwladwriaethau'r ddinas
4. Trefn wleidyddol mewn cymdeithasau y tu allan i Ewrop
5. Datblygiad y genedl-wladwriaeth
6. Y wladwriaeth a choncwest
7. Y wladwriaeth gyfoes
Nod
Mae'r modiwl yn ychwanegu at raglen ddysgu'r Adran, y Coleg Cenedlaethol, ac o bosib yr Athrofa newydd, drwy ddarparu ffocws cyson ar ddatblygiad hanesyddol y wladwriaeth. Wrth wneud hynny, mae'r modiwl yn darparu cyd-destun hanesyddol i nifer o'r trafodaethau cyfoes o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi’u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl I ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno dau draethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn I fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau’r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o'r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau y gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd gan y myfyrwyr gyfle I ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys: • Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol I’r modiwl • Gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6