Module Information

Module Identifier
TCM1220
Module Title
Methodolegau Ymchwil
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture Darlithoedd a Seminarau: 5x 2 awr yn ystod Semester 1
Lecture Darlithoedd a Seminarau: 5 x 2 awr yn ystod Semester 1
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1. Llyfryddiaeth gyda nodiadau  25%
Semester Assessment 2. Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil  Dylai hefyd ymgorffori amserlen a chynllun manwl or camau ar gyfer cyflawni a chyflwynor ymchwil terfynol.  Dylai'r cynllun ysgrifenedig fod yn 3,500 o eiriau. Dylai gynnwys yr elfennau uchod (thema, methodoleg, fframwaith cysyniadol).  75%
Supplementary Assessment Llyfryddiaeth gyda nodiadau  Os methir y modiwl oherwydd methu unrhyw elfen ohono, rhaid ailgyflwyno'r elfen honno.  25%
Supplementary Assessment Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil  75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos dealltwriaeth o ofynion ymchwil academaidd ar lefel uwchraddedig

2. Arddangos y gallu i adnabod, caffael a chymhwyso methodoleg addas ar gyfer cynllunio prosiect ymchwil uwchraddedig

3 Arddangos y gallu i drefnu a chyflwyno cynllun ymchwil cynhwysfawr, cydlynol a chyraeddadwy.

Aims

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd a'r gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio ystod o fethodolegau ymchwil addas gan arwain at baratoi cynnig deallus, dilys a chydlynol ar gyfer eu prosiect neu draethawd ymchwil terfynol TCM0560.

Content

Fe fydd y darlithoedd yn ystyried y pynciau canlynol:
Beth yw Cwestiwn Ymchwil?
Dulliau Dadansoddi ac Ymchwil: Bydd sesiynau yn ystyried achosion penodol o ymchwil yn defnyddio rhai o'r canlynol:
(i) Dadansoddi Testun
(ii) Dadansoddi Cynnwys
(iii) Dadansoddi Disgwrs
(iv) Ethnograffeg a'r Ymchwilydd
(v) Ysgrifennu Perfformiadol
(vi) Ymchwil drwy Ymarfer
(vii) Ymarfer fel Ymchwil
Ffurfio a chyflwyno cynnig ymchwil

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn defnydd o wybodaeth rifyddol ac ystadegol y myfyrwyr.
Communication Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'r cynnig ymchwil ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu hefyd eu cynnig yn gyfle i'r myfyriwr finiogi ei sgiliau cyfathrebu, gan ddisgwyl cyfraniadau ystyrlon a gloyw.
Improving own Learning and Performance Bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu cynnig a chynllun ymchwil unigryw eu hunain a fydd yn seiliedig ar eu syniadau, eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth. Mae hunanreolaeth yn rhan bwysig o ddatblygu ffiniau'r cynllun terfynol. Fe fydd y sesiynau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain.
Information Technology Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn sgiliau technoleg gwybodaeth y myfyrwyr. Disgwylir hefyd y bydd defnydd o gyfryngau newydd yn rhan o’r hinsawdd ymchwil hwn.
Personal Development and Career planning Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn.
Problem solving Arddangos gallu i lunio cynnig ar gyfer prosiect ymchwil. Bydd y medrau hyn yn cael eu datblygu wrth i'r myfyriwr ystyried y math o gwestiynau ymchwil, y dulliau a'r methodolegau addas ar gyfer y dasg a'r technegau a'r strategaethau o gynllunio ymchwil uwchraddedig.
Research skills Prif amcan y modiwl hwn yw astudio ac ystyried ystod o fethodolegau ar gyfer dod i benderfyniad yngl&#375n &#226 chynllun ymchwil uwchraddedig. Mae gofyn i'r myfyriwr roi ystyriaeth lawn i'r dulliau a'r deunyddiau ymchwil.
Subject Specific Skills Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn.
Team work Er mai cynigion ymchwil unigol yw prif ffocws asesiadau'r modiwl, disgwylir i'r myfyrwyr gyfranogi at waith eu cyd-fyfyrwyr yn ystod y seminarau a hefyd wrth iddynt gyflwyno eu cynnig ymchwil ar lafar.

Reading List

Recommended Text
Anderson, J & Poole, M (1998) Assignment and Thesis Writing John Wiley Primo search Berry, Ralph (2000) The Research Project: how to Write it Routledge Primo search Burgess, R (1997) Practice Based Doctorates in Creative and Performing Arts and Design Council for Graduate Education Primo search Deacon, David, Pickering, Michael, Golding, Peter and Murdock, Graham (2007) Researching Communications: A Practical Guide to Methods in Media and Cultural Analysis London: Arnold Primo search Ferre, J.P. (1983) Merrill Guide o the Research Paper Columbus, Ohio: Merrill Primo search Jensen, K.B. and Janowski, N. (eds.) (1991) A Handbook of Qualitative Methodologies for Mass Communication Research Routledge Primo search Stokes, Jane (2003) How to do Media and Cultural Studies London: Sage Primo search Turabian, K.A. (1996) A Manual for Writers of Term Papers, Theses and Dissertations University of Chicago Press Primo search Wisker, G. (1987) Writing a Thesis: A Guide to Long Essays and Dissertations London: Longman Primo search

Notes

This module is at CQFW Level 7