Module Information

Cod y Modiwl
AD37340
Teitl y Modiwl
Dysgu i Addysgu 1
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Gofynion SAC (Ymarfer Dysgu 1 a 2)
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Rhagofynion
Gofynion Mynediad TAR

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair)  70%
Asesiad Semester Aseiniad Ail Bwnc (1700 gair)  20%
Asesiad Semester Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair)  10%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair)  70%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ail Bwnc (1700 gair)  20%
Asesiad Ailsefyll Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair)  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sicr o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn CA3 a CA4 ac ôl-16 lle bo'n berthnasol

Dangos ymwybyddiaeth o gynnwys y pwnc a chwricwlwm is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*

Cynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn

Trafod a dadansoddi'n feirniadol sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol â hynny

Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni

Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tîm (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*

Gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol ac adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.

  • Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig

Cynnwys

Yn y modiwl hwn, bydd y pynciau canlynol yn cael eu trafod mewn perthynas a Safonau SAC ar gyfer y prif a'r ail bwnc methodoleg (fel bo'n briodol) fel y dangosir yn Schemapp3.
Bydd y themau cynnwys ar gyfer y pum wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn a byddant yn tynnu ar enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy'n gymwys i addysgu'r prif a'r ail bwnc methodoleg (lle bo'n berthnasol).

Prif Bwnc Methodoleg (8-10 awr/wythnos*)
1. Cyflwyniad i anghenion amrywiol dysgwyr
2. Cyflwyniad i gwricwlwm y prif bwnc methodoleg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16
3. Cyflwyniad i'r Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig, Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang
4. Cyflwyniad i asesu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a Llwybrau Dysgu
5. Cyflwyniad i'r defnydd effeithiol o TGCh
6. Cyflwyniad i strategaethau rheoli dosbarth
7. Cyflwyniad i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
8. Cyflwyniad i addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol
9. Cyflwyniad i wahaniaethu gan gynnwys y rheini ag AAA ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
10. Cyflwyniad i fonitro, asesu a chofnodi cynnydd dysgwyr a'r defnydd o asesiadau i wella agweddau penodol o addysgu, a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr;

Is-Bwnc Methodoleg (2 awr/wythnos) (lle bo'n berthnasol)
1. Cyflwyniad i gwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3
2. Cyflwyniad i asesu'r is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3
3. Cyflwyniad i strategaethau rheoli dosbarth
4. Cyflwyniad i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
5. Cyflwyniad i addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Drwy weithgareddau gweithdy, bydd rhaid i hyfforddeion rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chant eu hannog i fynegi eu barn a'u safbwyntiau ar faterion addysgol (heb ei asesu). Mae'r adolygiad beirniadol o'u datblygiad proffesiynol yn elfen allweddol o'r modiwl hwn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn ffurfio elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi i fyfyrwyr ddynodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n profi eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i gwblhau Adran A o'r Proffil Mynediad Gyrfa fydd yn gweithredu fel crynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal a'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Sefydlu.
Datrys Problemau Bydd gofyn i hyfforddeion ddethol y strategaethau addysgu ac asesu mwyaf priodol ar gyfer testunau o fewn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried yr agweddau at addysgu testunau trawsgwricwlaidd.
Gwaith Tim Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp. Caiff hyfforddeion eu hannog i archwilio eu profiadau Prif bwnc ac is-bwnc (lle bo'n berthnasol) yn eu Portffolio Datblygiad Proffesiynol.
Rhifedd Bydd y sgil allweddol hwn yn cael sylw mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth.
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau sy'n ymwneud ag addysgu'r prif bwnc methodoleg.
Sgiliau ymchwil Bydd yn ofynnol i hyfforddeion syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth yn ymwneud a materion perthnasol wrth addysgu eu prif a/neu is-bwnc (lle bo'n berthnasol).
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r We i ddibenion ymchwil a hefyd llunio'r aseiniad ar brosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6