Module Information

Cod y Modiwl
GW35820
Teitl y Modiwl
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyfraniad i Seminar / Cofnod Dysgu  20%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 3 Awr   1 x arholiad 2 awr  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x artholiad 2 awr)  30%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Cyfraniad i Seminar / Cofnod Dysgu  20%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn cwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr allu:
1. Amlinellu damcaniaethau'r meddylwyr allweddol ym maes damcaniaeth wleidyddol ryddfrydol gyfoes.
2. Amlinellu syniadau athronyddol craidd y damcaniaethau hynny a gynhwysir yn y cysyniad o `Gyfiawnder Byd-eang?.
3.Gwerthuso goblygiadau agweddau `gwladwriaethol? a `chosmopolitan? yng nghyd-destun damcaniaethau gwleidyddol rhyngwladol.
4. Gwerthuso a chynnig dadleuon damcaniaethol.
5. Cymharu a dadansoddi'r gritigol y syniadaeth yngl'r ag anghyfartaledd byd-eang.
6. Cloriannu ystod eang o argymhellion polisi ar gyfer cynnig cymorth i ranbarthau annatblygedig.
7.Dadansoddi goblygiadau normadol ystod o bersbectifau ar dan-ddatblygiad.
8.Trafod arwyddocad a rol ehangach damcaniaeth wleidyddol ryngwladol o fewn maes Cysylltiadau Rhyngwladol.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth yr Adran ym maes damcaniaeth wleidyddol ryngwladol a maes gwleidyddiaeth y trydydd byd trwy ddarparu ffocws ar y trafodaethau damcaniaethol a normadol yng nghyd-destun y byd annatblygedig Mae'n ategu at y ddarpariaeth gyfredol mewn ystod o feysydd gwahanol gan adeiladu ar y wybodaeth a rennir mewn modiwlau Rhan Un megis GW12220 Chwyldro a Dilyniant mewn Athroniaeth Wleidyddol, GW10420 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol, a GW10620 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol y Trydydd Byd a modiwlau Rhan Dau megis IP39220 The Third World in International Politics. Mae'n galluogi myfyrwyr sydd â diddordeb yn y pwnc i gaffael gwybodaeth arbenigol am nifer o ddamcaniaethau ar dan-ddatblygiad, trafodaethau polisi, a dadleuon athronyddol ynglŷn â phwysigrwydd a'r rheidrwydd moesol i roi cymorth i’r anghenus pell.

Disgrifiad cryno

Hanfod y modiwl hwn yw astudio trallod tlodi byd-eang. Ymgymerir yn bennaf â'r pwnc drwy ddamcaniaeth normadol a damcaniaethau ar annatblygiad – a’r argymhellion polisi sy’n gysylltiedig â hwy. Bydd myfyrwyr yn trafod gofynion athronyddol y cysyniad o 'gyfiawnder byd-eang'. Yn aml, lleolir trafodaethau o'r fath o fewn maes athroniaeth wleidyddol ryddfrydol gyfoes, ac yn enwedig y traddodiad athronyddol a ysbrydolwyd gan waith John Rawls. Rhoddir pwyslais mawr ar y modd y gallwn gyfiawnhau dyletswyddau i ddieithriaid pell a sut y gellir gweithredu’r rhain. Bydd y modiwl hefyd yn dadansoddi'r damcaniaethau empeiraidd hynny sy'n sail i drafodaethau o'r fath, gan gynnig amrywiaeth o bersbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad. Yn olaf, anogir myfyrwyr i ystyried y trafodaethau normadol ac empeiraidd yma, a chloriannu’r amrywiol argymhellion sydd yn codi ohonynt. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Cynnwys

Cyflwyniad: Syniadau am Gyfiawnder Byd-eang - Damcaniaeth, Economeg a Gweithredu

Moderneiddio Gwleidyddol neu Ddamcaniaethau Systemau Byd-eang: Persbectif Hanesyddol
Masnach Deg: Economi Wleidyddol Ryngwladol 'Gyfiawn'?
Adeiladu Gwladwriaeth a Democrateiddio: Cymorth Cefnogol neu Ymyrraeth Anghyfiawn?
Cymorth Datblygu: Ddylen ni neu beidio?
Athroniaeth Wleidyddol o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol: Gwneud lle i'r 'moesol' o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol
Rhyddfrydiaeth Gosmopolitan: Cyfiawnhau dyletswyddau i ddieithriaid pell
Rhyddfrydiaeth Sosialaidd: cyfiawnhau dyletswyddau i wladwriaethau annatblygedig
Dadlau dros ddyletswyddau: I bwy mae'r ddyled – pobloedd neu bersonau?

Casgliad: Pa ffordd nawr? Gwireddu Cyfiawnder Byd-eang

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6