Module Information

Cod y Modiwl
IE20420
Teitl y Modiwl
Rhyfel Algeria 1952-1964
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 1 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (2000-2500 gair)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
'
dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hanes modern Ffrainc a Gogledd Affrica

deall perthnasedd digwyddiadau hanesyddol penodol i gymdeithas Ffrengig gyfoes

asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf rhyfel Algeria yn ddadansoddol

datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beriniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol
.
datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonelau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn dyfnhau dealltwriaeth hanes modern Ffrainc a pherthnasedd digwyddiadau hanesyddol penodol i gymdeithas Ffrengig. Fe fydd myfyrwyr yn asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf rhyfel Algeria yn ddadansoddol.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol. Fe fydd fyfyrwyr yn datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar un o'r penawdau mwyaf poenus a dadleuol yn hanes diweddar Ffrainc ac Algeria, sef rhyfel annibyniaeth Algeria. Drwy ddefnyddio ffilm, dogfennau, a phropaganda ysgrifenedig a gweledol, byddwn yn dadansoddi'r rolau a chwaraewyd gan y Weriniaeth, y fyddin, cymdeithas sifil ac ysgolheigion a sut y gwnaeth eu rolau nhw dylanwadu ar ffurf a chanlyniad y rhyfel.

1. Yr Ymerodraeth Ffrengig
2. Algeria Wladychol
3. Cenedlaetholdeb(au) Algeriaidd
4. Rhyfel Algeria I: Dechrau'r Rhyfel
5. Rhyfel Algeria I - Ond Rhyfel Pwy?
6. Rhyfel Algeria II: Diwedd Algerie francaise
7. 'La Valise ou le cercueil': Hanes yr Harkis a'r Pieds-noirs
8. Wedi'r Rhyfel: Olion a Chanlyniadau'r Rhyfel
9. Sesiwn Adolygu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir y gallu i ffurfio, dadansoddi a datgan barn yn annibynnol, ac amddiffyn y farn honno ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau dadansoddol.
Gwaith Tim Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r profiad dysgu ar y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir sgiliau trefniadaeth drwy reoli astudiaethau personol, a chwblhau traethawd ar adeg penodol.
Rhifedd Nid yw'r modiwl yn ymdrin â'r sgil hon yn uniongyrchol.
Sgiliau pwnc penodol Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol
Sgiliau ymchwil Datglygir y gallu i ddefnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn beirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, y Porth, technoleg fideo-gynadledda a phrosesydd geiriau wrth gwblhau'r modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5