Module Information

Cod y Modiwl
BG13300
Teitl y Modiwl
Bioleg Cymhwysol Anifeiliad
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 4 Awr
Amrywiol 1 x Gweithgaredd Amrywiol 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad aml ateb yn semester 1 (40 m)  10%
Asesiad Semester Adroddiad labordy  Semester 1 (2,000 o eiriau)  20%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad diwedd semester 1  25%
Asesiad Semester Asesiad aml ateb yn semester 2 (40 m)  10%
Asesiad Semester Adroddiad labordy  Semester 2 (1,000 words)  10%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad diwedd semester 2  25%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio a chymharu treuliad, atgynhyrchu, twf a datblygiad a cyfnod llaetha mewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes.

2. Disgrifio effaith ffactorau biotig, fel bacteria / protosoa / ffyngau, helminths ac arthropodau, ar swyddogaeth anifeiliaid da byw, ceffyl ac anifeilaid anwes.

3. Dangos dealltwriaeth o berthnasedd o ficro-organebau i'r ecosystem y fferm yn ei gyfanrwydd.

4. Disgrifio effaith anifeiliaid gwyllt amrywiol yng nghyd-destun y fferm.

5. Cymharu bioleg, amrywiaeth a ffylogenedd o ficro-organebau i weithrediad y ecosystem amaethyddol.

Disgrifiad cryno

Drwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen mewn bioleg sy'n gysylltiedig a ecosystem fferm, da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes.

Nod

Fydd y modiwl hwn yw rhoi sylfaen i myfyrwyr mewn bioleg anifeiliaid sy'n ymwneud a'r amgylchedd amaethyddol a'i rhyngweithiadau, i'w paratoi ar gyfer modiwlau eraill neu I weithio mewn amgylchedd gwledig. Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu bioleg swyddogaethau allweddol o fewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys treuliad, atgynhyrchu, twf a datblygiad a llaetha. Bydd myfyrwyr wedyn yn astudio organebau sy'n effeithio ar y swyddogaeth o fewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes fel bacteria / protosoa / ffyngau, parasitiaid a rhai arthropodau. Addysgir ffeithiau grwpiau o anifeiliaid gwahanol, ee arthropodau, ar yr ecosystem amaethyddol yn ei gyfanrwydd. Bydd myfyrwyr yn cael sylfaen dda o swyddogaethau anifeiliaid a rhyngweithiadau yn gysylltiedig a'r amgylchedd amaethyddol.

Cynnwys

Semester 1
  • Cyflwyniad i'r fodiwl a endocrinoleg
  • Atgynhyrchu
  • Treulio
  • Treulio & resbiradaeth
  • System cardiofasgwlar & thermoreolaidd
  • Sesiwn ymarferol: Dyraniad systemau treulio deafa a mochyn
  • Asesiad cwis hanner tymor
  • Twf a datblygiad
  • Cyhyrau
  • System nerfol
  • System nerfol/llaetha
  • Llaetha / adolygiad
  • Semester 2
  • Cyflwyniad i amrywiaeth, ffylogenaidd, ac ecosystem y fferm
  • Heintiau firaol & bacteriol yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
  • Heintiau bacteriol yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes; TB
  • Heintiau ffwngaidd a protosoal yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes; TB
  • Heintiau gan helminthau yn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
  • Sesiwn ymarferol: Dosbarth ymarferol ar helminthau
  • Asesiad cwis hanner tymor; arthropodau
  • Imiwnedd
  • Arthropodau
  • Anifeiliaid eraill sy'n bwysig i ecosystem y fferm
  • Ecosystem y fferm / adolygiad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad ac aseiniadau. Rhoddir adborth ar yr asesiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu trwy'r asesiadau ymarferol.
Datrys Problemau Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad mewn cynllunio, gweithredu, dehongli data ac ysgrifennu asesiadau ar ffisioleg anifeiliad gan ddefnyddio modelau o anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn datblygu dulliau creadigol i gynllunio arbrofion, gwerthuso'n feirniadol eu hatebion arfaethedig ac adeiladu cynigion rhesymegol mewn ymateb i'r her arbrofol.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau / grwpiau bach yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllyn arbrofol a gweithio'n effeithiol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. Fydd hyn yn cael ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a bodloni terfynau amser ar gyfer yr aseiniadau a'r arholiad. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Bydd rhai o'r rhain yn cael eu hasesu yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth yn yr asesiadau.
Rhifedd Casglu a chraffu data o ran ansawdd a maint. Dehongli data. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd yr adborth yn cael ei roi yno hefyd.
Sgiliau pwnc penodol Dyrannu anifeiliaid allweddol er mwyn deall bioleg anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r lleoliad amaethyddol.
Sgiliau ymchwil Bydd yr aseiniadau a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr i ymchwilio i bynciau y tu hwnt i'r dyfnder yn deunydd y ddarlithoedd. Bydd gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn cael eu defnyddio. Bydd sut i wneud hyn yn cael ei drafod mewn darlithoedd. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr arholiad a'r aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Mynediad i'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lenyddiaeth wrth baratoi ar gyfer yr aseiniadau a'r arholiad. Bydd defnyddio technoleg gwybodaeth yn cael ei asesu yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar yr aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4