Module Information

Cod y Modiwl
CY10310
Teitl y Modiwl
Cymraeg Ddoe a Heddiw 1 (Iaith Gyntaf)
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110,CY10210, CY10410; i'r rhai na fyn hynny: CY10110 neu CY10210 neu CY10410
Elfennau Anghymharus
CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220, CY12810, CY12910
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  70%
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Ailsefyll Prosiect  30%
Asesiad Semester Prosiect  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


1. Byddwch yn gyfarwydd a^ hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol, a chymdeithaseg iaith.

2. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r famiaith Geltaidd, ac am ei pherthynas a^'r ieithoedd Celtaidd eraill, ac a^r ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill.

3. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r bumed/chweched ganrif hyd heddiw.

4. Byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol ar brosiect gwreiddiol ym maes tafodieitheg, ac o gywain gwybodaeth oddi ar lafar gwlad a'i dadansoddi.

5. Byddwch wedi ymgynefino a^ hanfodion astudio enwau lleoedd, ac fe fyddwch yn gyfarwydd a^ nifer o'r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.

6. Byddwch yn gyfarwydd a^'r prif broblemau sy'n bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg, ac yn gallu trafod yr ymateb i'r problemau hynny.

Disgrifiad cryno

Cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a theithi'r iaith Gymraeg. Trafodir nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, enwau lleoedd, enwau priod a nifer o bynciau eraill.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4