Module Information

Cod y Modiwl
CY10810
Teitl y Modiwl
Cymraeg Ysgrifenedig 2
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 1 Awr
Gweithdy 11 x Gweithdai 1 Awr
Gramadeg 11 x Gweithgaredd Gramadeg 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   arholiad atodol  80%
Arholiad Semester 2 Awr   80%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  20%
Asesiad Semester Ymarferion  20%

Canlyniadau Dysgu

Ar o^l dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau adferfol yn gywir.

2. Byddwch yn deall sut y mae defnyddio rhagenwau personol yn gywir, rhai blaen, rhai o^l, a rhai mewnol.

3. Byddwch yn deall sut y mae llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir.

4. Byddwch yn deall sut mae llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.

5. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n hyderus yn y cywair llenyddol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a dealltwiraeth ramadegol myfyrwyr yn y Gymraeg. Cyflwynir pwnc gramadegol newydd ym mhob sesiwn gramadeg a gwneir ymarferion perthnasol yn y seminar. Yn y gweithdy wythnosol mae cyfle i drafod problemau penodol sy'n codi yng ngwaith y myfyrwyr.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4