Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr arholiad atodol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | traethawd 3000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | traethawd 3000 o eiriau Traethawd | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol y gweithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw gan ystyried elfennau megis syniadaeth/ideoleg, crefft, strwythur a pherthynas y testunau a^'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a^ mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny yn berthnasol.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r testunau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a^ safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fydd yn amcanu at ddangos holl gyfoeth ac ehangder amrywiol rhyddiaith Gymraeg o ddechrau's ugeinfed ganrif hyd 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar ddatganoli). Bydd y cwrs yn cloriannu cyfraniad nofelwyr, awduron storiau byrion, ysgrifau a llyfrau ffeithiol (cofiannau, hunangofiannau a llyfrau taith) i lên yr ugeinfed ganrif ac yn olrhain dylanwadau hanesyddol ar eu gwaith.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr a fydd yn dilyn y modiwl hwn gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg gan ddefnyddio iaith raenus a chywir. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn meithrin doniau'r myfyrwyr mewn perthynas ag adnabod ac ymdopi a anawsterau a phroblemau a gyfyd yn sgil darllen gweithiau llenyddol cymhleth ac amlhaenog eu hystyr. |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes meddyliol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod dan sylw a'i gynnyrch mewn rhyddiaith. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio traehawd a darllenyn annibynnol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6